Sei Shōnagon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
signatures only go on talk pages; + delwedd
ychwanegu adran
Llinell 8:
 
Mae ''Makura no Sōshi'' yn llyfr unigryw sy'n anodd ei gategoreiddio. Mewn arddull anecdotal hynod o bersonol mae'n disgrifio bywyd mewnol llys Heian Kyo, ond ceir ynddo hefyd gerddi, rhestrau o hoffbethau a chasbethau, disgrifiadau o natur a synfyfyrio dwys, ynghŷd â phenawdau erotig a disgrifiadau o anturiaethau carwriaethol. Mae'r llyfr yn ddrych i'r llys y'i ysgrifenwyd ynddo ac yn cyfuno soffistigeiddrwydd aruchel ag agwedd ffres, ddiniwedd tuag at natur a phleserau caru cymysg.
 
== Sei a Murasaki ==
 
Fel y nodir uchod, roedd yr Arglwyddes Murasaki Shikibu a Sei Shōnagon yn gyfoeswyr yn llys Heian Kyo. Yn [[Siapan]] cymherir Murasaki i'r blodeuyn [[eirin]] (''murasaki'') difrycheulyd a Sei i'r blodeuyn [[ceirios]] lliwgar ond llai pur. Gwelir y gyferbyniaeth rhwng y ddwy lenores enwog yn eu gwaith a'u cymeriad. Roedd Murasaki yn swil, yn osgoi cymdeithasu arwynebol ac, mae'n debyg, yn dipyn o fursen, ond roedd Sei yn ddi-flewyn ar dafod ac yn byw bywyd i'r eithaf. Er nad yw'n ddiduedd mae'r disgrifiad bachog o Sei a rydd Murasaki yn ei dyddiadur yn werthfawr: "Mae gan Sei Shōnagon yr osgo mwyaf anhygoel o hunanfoddhad. Ac eto os aroswn am eiliad i edrych ar yr ysgrifeniadau Tseinaeg hynny o'i heiddo y mae hi'n taflu o gwmpas y lle gwelwn eu bod yn ddiffygiol iawn... Mae hi'n ferch ddawnus, yn ddi-os. Ond, os ydi rhywun yn rhoi rhwydd hynt i'w emosiynau hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anaddas ac os oes rhaid i rywun blasu popeth diddorol sy'n digwydd droi i fyny, yn anorfod mae pobl yn mynd i feddwl eich bod yn benchwiban. A sut gall pethau droi allan yn iawn i ddynes o'r fath?" (gw. Ivan Morris, ''The World of the Shining Prince[:] Court Life in Ancient Japan'', (Llundain, 1969), tt.262-3).
 
== Cyfieithiadau ==