Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg"

No change in size ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
gramadeg
(categori)
B (gramadeg)
{{Cymraeg}}
Digwyddodd '''trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg''' yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'iu hiaith [[Lladin]], ddylanwad trwm ar y [[Brythoneg|Frythoneg]]. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod ar Brydain neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef [[Cymraeg#Cymraeg_Cynnar|Cymraeg Cynnar]] a [[Cernyweg|Hen Gernyweg]].
 
Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys [[Tywyn]], Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y chweched ganrif, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y chweched ganrif.
9,149

golygiad