Gwarchae Castell Coety (1404-5): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
YstyrirRoedd '''Gwarchae Castell Coety''' yn warchae bwysig gan fyddin [[Cymru]], dan arweiniad [[Owain Glyn Dŵr|y Tywysog Owain Glyn Dŵr]] ar [[Castell Coety|gastell Seisnig Coety]] ym mhentref [[Coety Uchaf|Coety]], ychydig i'r gogledd-orllewin o ganol tref [[Pen-y-bont ar Ogwr]]. Mae'n nodedig gan i'r Cymry gynnal y gwarchae am gyfnod mor hir ac am iddynt ddefnyddio [[powdwr gwn]] am y tro cyntaf.
 
Roedd Arglwyddiaeth Coety'n un o sawl arglwyddiaeth o fewn [[Morgannwg]], ac yn un o'r cyfoethocaf. Yn 1400 deilydd yr Arglwyddiaeth oedd Syr Lawrence Berkerolles (m. 1411), a fu'n trigo yno ers 1384. Etifeddodd y castell (a [[Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr]], Llanharri a ''Newland Castle'', [[Swydd Amwythig]]) gan ei fam Katherine Turbeville. Aeth ati i gryfhau a dodrefnu ei gastell, gan orffen ychydig cyn y cafwyd gwarchae dan arweiniad [[Owain Glyn Dŵr]], [[Tywysog Cymru]].
 
==Gwarchae Castell Coety (1404-5)==
{{Prif|Gwarchae Castell Coety (1404-5)}}
[[Delwedd:Southern elevation of Coity Castle (geograph 2125810).jpg|bawd|chwith|Ochr deheuol y castell.]]
Ceir tystiolaeth i'r Cymry, a oedd yn gwarchae ac yn ymosod ar Gastell Coety, ddefnyddio powdwr gwn; mae'n bosib iddynt gael cymorth y Ffrancwyr gyda hyn. Yn sicr, difrodwyd y muriau gogleddol allanol yn fawr, a hynny ychydig wedi i [[Owain Glyn Dŵr]] gynghreirio gyda [[Ffrainc]]. Dyma'r cylch hiraf gan fyddin Cymreig yn ne Cymru; dim ond cyrchoedd y Cymry ar gestyll [[Castell Harlech|Harlech]] ac [[Castell Aberystwyth|Aberystwyth]] (cyrchoedd llwyddiannus) a Chaernarfonchastell [[Castell Caernarfon|Caernarfon]] (aflwyddiannus) a barodd yn hirach. Credir i'r ddau frenin:, y Tywysog Glyn Dŵr a [[Harri IV, brenin Lloegr|Harri IV, brenin Lloegr]] a'i fab, y tywysog [[Harri V, brenin Lloegr|Harri]] ddod yma ryw bryd yn ystod y gwarchae.<ref>[http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/wp-content/uploads/2017/02/Coity-Castle-siege-1404-Chapman-2013.pdf Adroddiad a arianwyd gan Lywodraeth Cymru;] awdur - Dr Adam Chapman; 2013.</ref>
 
Dengys cryfder y ddau warchae ar Gastell Coety, a'r ffaith iddynt barhau am gyfnod mor hir, mor bwerus oedd y fyddin Gymreig, a chymaint o straen ydoedd ar goron Lloegr.