Fframwaith Rhyngweithredadwyedd Delweddau Rhyngwladol (IIIF): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "International Image Interoperability Framework"
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:International_Image_Interoperability_Framework_logo.png|de|bawd|Logo IIIF]]
Mae'r '''Fframwaith Rhyngweithredadwyedd Delweddau Rhyngwladol '''(sy'n cael ei adnabod fel 'IIIF', sef talfyriad o'r Saesneg: '''International Image Interoperability Framework''') yn diffinio llawer o rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau (sy'n cael ei adnabod fel API, sef talfyriad o'r Saesneg: application programming interfaces neu 'API') sy'n darparu dull safonol o ddisgrifio a chyflwyno delweddau dros y we, ynghyd a "metadata ar gyfer cyflwyno" (metadata strwythurol, hynny yw)<ref>{{Cite web|url=http://iiif.io/technical-details/|title=Technical Details — IIIF - International Image Interoperability Framework|access-date=9 November 2016}}</ref> am gyfresi strwythuredig o ddelweddau. Os yw sefydliadau sy'n dal gweithiau celf, llyfrau, papurau newydd, llawysgrifau, mapiau, sgroliau, casgliadau un ddalen, a deunydd archifol yn darparu diweddbwyntiau IIIF ar gyfer eu cynnwys, gall unrhyw syllwr sy'n cydsynio â IIIF dreulio ac arddangos delweddau a'u metadata strwythurol a chyflwyno.
 
Mae nifer o raglenni digido wedi arwain at gasgliad yn cael eu cyflwyno ar y we gna ddefnyddio syllwyr penodol,<ref>{{Cite web|url=http://faculty.arts.ubc.ca/sechard/512digms.htm|title=Medieval Manuscripts on the Web (digitized manuscripts)|access-date=9 November 2016}}</ref> ond nid yw'r casgliadau hyn o reidrwydd wedi bod yn rhyngweithredadwy gyda chasgliadau eraill,<ref>[http://www.diglib.org/forums/2012forum/transcending-silos-leveraging-linked-data-and-open-image-apis-for-collaborative-access-to-digital-facsimiles/ Presentation on "Transcending Silos" at 2012 Digital Library Federation Forum]</ref> ac nid yw defnyddwyr na sefydliadau yn gallu cyfnewid syllwr am un arall sydd o bosib yn fwy addas i'w dibenion. Mae'r fframwaith hon yn ceisio meithrin technolegau ar y cyd i'r cleient a'r gweinydd er mwyn galluogi rhyngweithredadwyedd ar draws cadwrfeydd, ac i hybu marchnad mewn gweinyddion a syllwyr sy'n cydsynio a'r fframwaith.<ref>{{Cite web|url=http://iiif.io/about.html|title=Redirecting…|access-date=9 November 2016}}</ref>