Ifor ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu; trefnu'n well
Llinell 1:
Uchelwr o [[Teyrnas Gwent|Went]] oedd '''Ifor ap Llywelyn''' a adwaenir yn well fel '''Ifor Hael''' (fl. c. [[1320]] - [[1360]]/[[1380]]). Roedd yn gyfaill a phrif noddwr y bardd enwog [[Dafydd ap Gwilym]]. Daeth i gynrhychioli delfryd nawdd yng ngolwg [[Beirdd yr Uchelwyr]] a beirdd Cymru ar eu hôl. Mae'r epithet 'Hael' yn adlais bwriadol o'r 'Tri Hael' a geir yn nhestunau [[Trioedd Ynys Prydain]].<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Caerdydd, 1992).</ref>
 
==Hanes==
Ychydig o ffeithiau cadarn sydd gennym amdano. Cedwir ei ach fel Ifor ap Llywelyn ab Ifor ap Bledri ap Cadifor Fawr, arglwydd Blaen-[[Afon Cuch|cuch]] yn [[Dyfed|Nyfed]]. Priododd ei dad, Llywelyn, Angharad ferch Morgan ap Maredudd o [[Tredegar|Dredegar]], un o ddisgynyddion [[Rhys ap Tewdwr]], gan symud i fyw yng Ngwent pan etifeddodd ei wraig diroedd Morgan. Mae cyfeiriadau mewn dwy ddogfen yn dangod i Angharad gael ei geni naill ai ym [[1293]] neu [[1299]], sy'n awgrymu i Ifor gael ei eni tua 1315-20.<ref>[[Thomas Parry]] (gol.), ''Gwaith Dafydd ap Gwilym'' (Caerdydd, 1952), tt. xxxix-xl.</ref>
 
Trigai Ifor ym mhlas Gwernyclepa ger [[Basaleg]] yng Ngwent, tua milltir i'r de o'r pentref presennol lle cadwai groeso cynnes ar ei aelwyd i'r beirdd. Ceir sawl cyfeiriad at lys Ifor Hael yng nghanu Dafydd ap Gwilym. Credir i'r bardd ganu iddo yn y cyfnod 1345-80. Mae un o'i gerddi yn gywydd mawl i lys Ifor ym Masaleg sy'n cynnwys y llinellau:
 
:Mawr anrhydedd a'm deddyw;
:Mi a gaf, o byddaf fyw,
Llinell 11 ⟶ 13:
:A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
:A cherddau tafodau teg,
:A solas ym Masaleg.<ref>Thomas Parry (gol.), ''Gwaith Dafydd ap Gwilym'' (Caerdydd, 1952), cerdd 8.31-38.</ref>
 
Ymhlith cerddi gorau Dafydd ap Gwilym yw ei [[marwnad|farwnadau]] i Ifor a'i wraig Nest ynghyd, ac i Angharad. Dyma englyn agoriadol ei farwnad i Ifor a Nest:
 
:Henaint anghywraint a hiraeth, — a phoen
:A phenyd fal blaen saeth,
Llinell 19 ⟶ 22:
:Marw Nest, y mae Cymry'n waeth.
 
==Etifeddiaeth==
Yn y [[18fed ganrif]] a'r [[19eg ganrif]] daeth 'Llys Ifor Hael' yn destun poblogaidd gan y beirdd, fel arfer fel myfyrdod pruddglwyf dros yr adfeilion fel symbol o'r fyrhoedledd bywyd a'r gogoniant a fu. Un o gerddi mwyaf adnabyddus [[Evan Evans (Ieuan Fardd)]], er enghraifft, yw'r gadwyn englynion 'Llys Ifor Hael' a gyfansoddwyd pan ymwelodd ag adfeilion llys Ifor ap Llywelyn ym Masaleg ym 1779 yng nghwmni [[Iolo Morgannwg]]. Canodd sawl bardd arall ar y pwnc, yn cynnwys [[Ieuan Glan Geirionydd]].
 
Yn 2008, agorwyd yr ail ysgol gynradd Gymraeg yn ninas [[Casnewydd]] a'i henwi yn [[Ysgol Ifor Hael]] er anrhydedd i'r noddwr canoloesol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol yng Ngorffennaf 2009.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8140000/newsid_8144900/8144901.stm Newyddion BBC Cymru "Agor ysgol Gymraeg newydd" 13.07.09]</ref>
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
*Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Caerdydd, 1992)
*[[Thomas Parry]] (gol.), ''Gwaith Dafydd ap Gwilym'' (Caerdydd, 1952), tt. xxxix-xl.
 
 
[[Categori:Genedigaethau'r 1310au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 14eg ganrif]]
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth]]
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]
Llinell 32 ⟶ 38:
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Pobl o Forgannwg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 1310au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 14eg ganrif]]