New Malden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Cymuned a diwylliant Coreaidd: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 2:
 
==Cymuned a diwylliant Coreaidd==
New Malden yw ardal mwyaf poblog [[Ewrop]] o ran alltudion o [[De Corea|Dde Corea]], ac un o ardaloedd mwyaf dwys o bobl Coreaidd yn y byd y tu allan i Dde Corea ei hun gyda tuathua 20,000 o bobl yn byw o fewn radiws 3 milltir o'r dref<ref name="docs.google.com">https://docs.google.com/viewer?url=http://www.kingston.gov.uk/livin_kingston_spring_2005_final-2.pdf</ref>. Mae gan yr ardal lu o siopau a tai bwyta Coreaidd. Ar Burlington Road lleolir Sefydliad Diwylliannol Anglo-Goreaidd, ac fe geir nifer o eglwysi yn yr ardal sy'n cynnal gwasanaethau [[Corëeg]].
 
Caiff hyn ei olrhain i'r 1970au pan ddilynodd nifer o bobl o Dde Corea ôl traed Llysgennad De Corea, a oedd yn byw yn nhref cyfagos [[Wimbledon]] ers y 1960au<ref name="docs.google.com"/>. Pan gynyddodd prisiau tai Wimbledon, symudodd nifer i New Malden. Gelwir yr ardal yn aml yn ''New Mal-dong'', gan mai "cymdogaeth" yw ystyr y gair ''dong''.