Sefydliad Materion Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B dolen
Llinell 1:
Sefydliad annibynnol yng Nghymru, yn seiliedig ar aelodaeth a heb fod ynghlwm wrth unrhyw grŵp gwleidyddol neu economaidd, sy'n ceisio ysgogi gwelliannau ym mywyd [[Cymru]] yw'r '''Sefydliad Materion Cymreig''' ([[Saesneg]]: ''The Institute of Welsh Affairs''; ''IWA''). Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar [[gwleidyddiaeth Cymru|wleidyddiaeth]], [[Diwylliant Cymru|diwylliant]] ac [[Economi Cymru|economi]] Cymru, a thechnoleg a gwyddoniaeth yn y wlad, gyda'r amcan o ddatblygu cynigion i "wella a newyddu polisi" a hyrwyddo meddwl newydd ar faterion Cymreig. Mae'r sefydliad yn cyhoeddi sawl adroddiad ar ei ymchwil, yn cyhoeddi'r bwletin ''agenda'', ac yn trefnu seminarau a chynhadleoedd i annog trafodaeth ar y pynciau a godir.
 
Cafodd ei sefydlu yn 1985 gan [[Geraint Talfan Davies]], brawd y llenor [[Aneirin Talfan Davies]]. Y cyfarwyddwr presennol yw [[John Osmond]].
 
Mae gan y SMC tua 1,200 aelod unigol a 150 aelod corfforaethol, a 100 Cymrawd. Mae'n gwmni ac yn elusen gofrestredig. Mae'r aelodau corfforaethol yn cynnwys [[Cyngor Celfyddydau Cymru]], [[BBC Cymru]], [[Nwy Prydain]], [[Cyngor Dinas Caerdydd]], Dur Corus, Deloitte, Eversheds, Banc Julian Hodge, Banc yr [[HSBC]], [[ITV Wales]], [[Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree]], [[S4C]], [[Dŵr Cymru]] a [[Prifysgol Cymru]].