Fès: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:City of Fez.jpg|250px|bawd|Golygfa banoramig dros Fès i gyfeiriad y gogledd.]]
[[Delwedd:Blue Gate in Fes.jpg|250px|bawd|Porth Glas enwog Fès, ger y medina.]]
Dinas drydedd fwyaf [[Moroco]] yw '''Fès''' neu '''Fez''' ([[Arabeg]]: فاس‎ [Fās], [[Ffrangeg]]: ''Fès''), ar ôl [[Casablanca]] a [[Rabat (Moroco)|Rabat]], gyda phoblogaeth o 946,815 (cyfrifiad 2004). Mae'n ddinas hanesyddol sydd â lle pwysig yn hanes a diwylliant Moroco ac mae'n brifddinas rhanbarth [[Fès-Boulemane]].
 
Gorwedd y ddinas ar lannau afon Fès wrth droedfryniau gogleddol mynyddoedd [[Atlas Canol]], tua 100 milltir o'r [[Môr Canoldir]] i'r gogledd a'r [[Cefnfor Iwerydd]] i'r gorllewin fel ei gilydd.