Pibgod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 1:
Offeryn cerdd draddodiadol yw '''pibgod'''. Llenwir y cod ag awyr (naill ai drwy [[anadlu]] neu fegin fraich) a cynhyrchirchynhyrchir y sain drwy yrru'r aer o'r god gan greu dirgryniad mewn gorsen yn y bib neu'r pibau.
 
Mae’r cyfeiriad cyntaf at y pibgod (sydd weithiau yn mynd yn ôl yr enwau cotbib, pibau cŵd neu pipa cwd) yn dyddio nôl i’r 12g. Mae’n debyg fod pibyddion wedi cystadlu yn yr [[Eisteddfod]] gyntaf i’w chofnodi – a drefnwyd gan yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yn [[Aberteifi]] yn [[1176]]. Tua’r un cyfnod, nododd [[Gerallt Gymro]] (Giraldus Cambrensis, c.[[1146]]–[[1223]]) fod y Cymry’n chwarae’r [[Telyn|delyn]], y pibgod a’r [[crwth]]. Cyfeirir yn aml atynt ym marddoniaeth Cymru’r canol oesoedd (e.e. [[Iolo Goch]] yn sôn am ‘chwibanogl a chod’, neu bib a bag) tra bod cerddi dychanol gan feirdd a oedd hefyd yn delynorion yn ddirmygus o bibyddion a’u offerynnau.