Powys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B Golygu cyffredinol (manion), replaced: annibynol → annibynnol using AWB |
||
Llinell 88:
Ceir dros 80 o seintiau a roddodd eu henwau i lannoedd ym Mhowys ond nid oes unrhyw olion o'r eglwysi cynnar (6g-11g) wedi goroesi ar wahân i un eglwys: [[Llanandras]] lle ceir wal a bwa a all berthyn i arddull Sacsonaidd. Ond ceir dros 20 o gerrig wedi'u haddurno, gan gynnwys [[bedyddfaen]]i; yn eu plith mae bedyddfaen [[Pencraig]] (8g), [[Newchurch, Powys]] (10g neu'r 11g), Defynnog (11g) a [[Partrishow|Phartrishow]] (11g). Mae bedyddfaen Defnnog yn cynnwys addurniadau o ddail ac ysgrifen rwnig a Lombardaidd (ardal yng ngogledd yr Eidal). Ceir nifer o golofnau cerfiedig hefyd (o'r 5g a'r 6g) gan gynnwys: [[Trallong]], [[Carreg Turpillius]], [[Maen Madog]], [[Ystradfellte]] a Charreg Rustece ([[Llanerfyl]]), nifer ohonynt yn cynnwys addurn y [[Croes Geltaidd|Groes Geltaidd]] a chlymau Celtaidd cain. Y mwyaf cain, efallai, yw [[Carreg Llywel]] o'r 8g, sydd bellach wedi'i werthu i'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain am £10.
Mae'r rhan fwyaf o'r eglwysi mewn llannau crwn, ar gopa bryn neu ar lan afon, ac mae'r tri ffactor hyn yn dangos eu bod yn perthyn i gyfnod cyn-Gristnogaeth. O'r 10g i'r 12g, trodd y mynachlogydd yn glasau, gyda phob eglwys yn cyfrannu tuag atynt a phob un yn cynnwys abad, offeiriad a chanon. Parhaodd y rhain yn eitha
Mae'r eglwysi'r Oesoedd Canol yn gymysgedd o bensaerniaeth!
|