Tafodieitheg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
 
Disgrifir tafodieitheg fel ‘gwyddor tafodieithoedd’ neu ‘the systematic study of dialect’. Math traddodiadol o iaith a ddefnyddir mewn man penodol neu o dan amodau cymdeithasol penodol yw tafodieithoedd. Evans a Davies (2000): “Daeth geiriau megis jwmpo, deseido, canslo, enjoyo ac iwso yn rhan annatod o’n hiaith, a’r tristwch yw na wyr y to ifanc yn well”. Anghywir yw'r dyfyniad – mae’r geiriau wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd. Dyma enghraifft o bobl yn delfrydu’r gorffennol wrth ddelfrydu iaith safonol – ond ni ellir stopio iaith rhag newid. Yn naturiol, fydd pob cenhedlaeth yn meddwl eu bon’t yn well. Anodd iawn yw dweud fod gair yn dod o un ardal benodedig: Francis (1985) “It appears… that we cannot precisely define our subject matter… dialect boundaries are usually elusive to the point of non-existence”. Ceir agwedd ramantus tuag at y tafodieithoedd yn deillio’n ol canrifoedd. Roedd ‘elegance’ yr iaith yn gysylltiedig a chryfder mewn brwydr.
 
Amrywiadau oddi mewn un iaith yw ei thafodieithoedd. Yn aml, ceir enwau ar dafodieithoedd – ‘iaith Shir Gar’, ‘iaith y Rhos’ ac yn fwy diweddar ‘siarad Gog’. Er y gwahaniaethau hyn, mae pawb yn derbyn ein bod yn siarad ‘Cymraeg’. Fodd bynnag, gallwn ddeall llawer o eiriau Llydaweg felly pam na chaiff hi ei hystyried fel tafodiaith i’r Gymraeg? Ceir llawer o wahaniaethau ieithyddol yn bodoli rhwng y ddau, anodd i Gymro/Gymraeg ddeall Llydaweg – felly rhaid eu hystyried yn ddwy iaith wahanol.
 
Nid yw’r berthynas rhwng iaith a thafodiaith wastad mor glir a pherthynas y Gymraeg a’r Llydaweg. Os yn teitiho o Ffrainc i’r Eidal, ni fydd ffin wleidyddol yn rhwystro trigolion pentrefi rhag cyfathrebu – parhawd dafodieithol sydd. Rydym yn ystyried pobl Ffrainc i siarad Ffrangeg ond yr unig beth sy’n cefnogi hyn yw’r iaith mae’r wladwriaeth yn ei hyrwyddo. Pan fydd gwledydd yn ffurfioli ei hiaith, byddant yn mabwysiadu iaith y wladwriaeth. – e.e. arwyddion ffyrdd Ffrangeg yn Ffrainc. Daw cyfeirio at ffurfioli iaith a ni at ystyriaeth hanfodol wrth drafod tafodiaith sef perthynas y iath a’r gymdeithas sydd yn ei defnyddio. Mae pob tafodiaith wedi datblygu dros ganrifoedd gan gael eu heffeithio gan ddylanwadau di-ri. Bydd tafodiaith felly yn adlewyrchu cysylltiadau rhwng ardaloedd eraill, a'u mynd a’u dod o ardal i ardal. Ceir perthynas rhwng y nodweddion hyn a ffiniau daearddol megis mynyddoedd/afonydd. Heddiw, nid yw’r rhwystrau daearyddol mor bwysig oherwydd gwelliant mewn technoleg a thrafnidiaeth: S4C yn dod ag acenion o bob rhan o’r wlad i gartrefi ar led Cymru. Cyfranna'r dtblygiadau at lefelu’r gwahaniethau tafodieithol.
 
Wrth ddiffino tafodieitheg ceir tuedd i gondemnio geiriau benthyg – ond mae geiriau benthyg yn rhan enfawr o bob iaith dan haul – gan y Saesneg eiriau benthyg nifer eang o ieithoedd. Ceir agwedd cymysg at dafodieithoedd yng Nghymru – e.e. Syr John Morris-Jones ar ddechrau’r ganrif yn ceisio safoni orgraff a gramadeg yr iaith ac yn drwm ei law ar dafodieitheg. Ni ellir gwadu cyfraniad Morris-Jones at iaith ysgrifenedig Cymru ond purydd oedd y gwr ac fe gondemniodd nifer o ffurfiau tafodieithol. Dywed “the various dialects represent different corruptions”. Anghytuna Hugh Evans wrth ddweud bod tafodieitheg yn hybu ysgrifennu Cymraeg – buasai ofn gwallau yn atal pobl rhag ysgrifennu. Cefnogir y gosoadiad hwn gan ddisgrifiadau nifer o Gymry at dafodieithoedd eu hunain – ‘Cymraeg shiprys’, 'Cymraeg pot jam'. Gan bron bob ardal term i ddisgrifio’r iaith ‘ddiffygiol’ y credant yw eu tafodiaith.
 
Mae nifer yn codi’r cwestiwn os ‘yw un tafodiaith yn fwy derbyniol na’r llall?’ – h.y. fod rhai nodweddion tafodieithol yn fwy derbynniol nag eraill. Cred nifer ym Morgannwg fod yr iaith yn gwella wrth deithio’n ogleddol “mynd cam arall i Geredigion a mae’n well fyth. On’ pan bo’ chi’n mynd i’r gogledd, ych chi’n cyrradd y pen ucha yn y iaith”. Mae'r datblygiad mewn darlledu yn yr iaith Gymraeg wedi rhoi mwy o bwyslais ar yr iaith lafar ond mae’n ddigon posib na fydd dod ag acenion eraill i gartrefi ddim ond yn cadarnhau’r rhagfarnu sydd eisoes yn bod.
 
Er gwaetha pob barn a rhagfarn, mae lle canolog i’n tafodieithoedd – un o brif nodweddion ein cenedlaetholdeb yw ‘perthyn’a bydd clywed tafodiaith Gymraeg yn peri sgwrs anochel ar diroedd estron. Gall glywed gair tafodieithol estron ehangu dysg neu achosi cweryla chwyrn megis fod bwrdd yn air gwell na bord, a bod rwan ddim yn air o gwbwl. Nid oes y fath beth a ‘thafodiaith bur’, ac nid oes unrhyw eiriau yn ‘well’ na’i gilydd. Mater o agwedd yw ‘purdeb’ a ‘chywirdeb’ – bydd y tafodieithoedd yn datgan yr iaith fel y mae, yn hytrach na fel y dymunai purydd megis John Morris-Jones iddi fod.