Tafodieitheg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Diffinir '''tafodieitheg''' fel ‘gwyddor tafodieithoedd’ neu ‘the systematic study of dialect’. Math o iaith a ddefnyddir mewn man penodol yw '''[[tafodiaith]]'''. Weithiau cyfeirir at ''dafodieithoedd cymdeithasol'', ffurfiiau ar iaith a siaredir gan grŵp cymdeithasol penodol. Mae pob math o iaith sy'n nodweddiadol o ardal neu ranbarth neu wlad arbennig yn dafodiaith, ond weithiau defnyddir y termau ''tafodiaith'' neu ''dafodiaith draddodiadol'' i ddynodi ffurf wledig ar iaith a siaredir mewn ardal cyfyng ac sy'n wahanol iawn i'r [[iaith safonol]]. Gwneir felly cyferbyniad rhwng tafodieithoedd safonol neu dafodieithoedd dinesig neu ranbarthol a thafodieithoedd lleol. Gwahaniaethir hefyd rhwng [[acen]] a thafodiaith: mae acenion un iaith yn gwhaniaethu oddi wrth ei gilydd drwy ynganiad gwahanol, ond mae gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd yn cwmpasu nodweddion gramadegol (gan gynnwys [[morffoleg]] a [[cystrawen|cystrawen]]) hefyd.
 
==Diffinio ffiniau tafodieithoedd==