Castell Bodyddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Un o gestyll tywysogion [[teyrnas Powys|Powys]] oedd '''Castell Bodyddon'''. Mae ei hanes yn ansicr ac ni wyddom pryd cafodd ei godi.
 
Codwyd y castell ger pentref [[Llanfyllin]], [[Powys]]. [[Castell mwnt a beili]] pur sylweddol oedd Castell Bodyddon. Mae'n debyg mai Tomen yr Allt, tua milltir a hanner o LanfyllinLlanfyllin, oedd y safle.
 
Erbyn y 1250au roedd y castell ym meddiant [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]], mab y tywysog [[Gwenwynwyn ab Owain]], sefydlydd [[Powys Wenwynwyn]]. Fel ei dad o'i flaen mewn perthynas â [[Llywelyn Fawr]], roedd elyniaeth rhwng Gruffudd a [[Llywelyn ap Gruffudd]], Tywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Tywysog Cymru|Chymru]]. Pan ymgyngreiriodd Gruffudd â'r Goron Seisnig yn erbyn Llywelyn, cyrchodd yr olaf i Bowys yn [[1257]] a dinistriodd Gastell Bodyddon. Cymerodd Llywelyn feddiant ar diroedd Gruffudd a ffôdd i alltudiaeth. Dychwelodd Gruffudd yn 1263. Talodd wrogaeth i Lywelyn a dychwelwyd ei diroedd iddo ond ni cheir cyfeiriad arall at y castell.