Brwydr Philippi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ymladdwyd '''Brwydr Philippi''' gerllaw dinas Philippi yn 42 CC, rhwng dwy fyddin Rufeinig, un dan ddau o lofruddion [[Iŵl Ce...'
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ymladdwyd '''Brwydr Philippi''' gerllaw dinas [[Philippi]] yn [[42 CC]], rhwng dwy fyddin [[Gweriniaeth Rhufain|Rufeinig]], un dan ddau o lofruddion [[Iŵl Cesar]], [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]], a'r llall dan [[Marcus Antonius]] a mab mabwysiedig Cesar, [[Augustus|Gaius Octavianus]] (yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus Cesar).
 
Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar [[3 Hydref]], llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun. Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar [[23 Hydref]], a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.