Cystrawen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Ieithyddiaeth}}
 
'''Cystrawen''' (o'r [[Lladin]] ''construenda''<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru, argraffiad cyntaf, tud. 817</ref>) yw'r drefn y rhoddir geiriau mewn cymal neu [[brawddeg|frawddeg]] mewn [[gramadeg]]. Mewn [[ieithyddiaeth]], gall gyfeirio at reolau cyffredinol ar gyfer pob [[iaith]] ddynol, neu at gystrawn iaith benodol (e.e. [[Cystrawen y Gymraeg]]). Mewn [[mathemateg]], [[rhesymeg]] a [[gwyddor cyfrifiaduron]], mae gan [[iaith ffurfiol|ieithoedd ffurfiol]] cystrawen arbennig eu hunain.
 
== Hanes ==
Yn y [[4edd ganrif CC|bedwaredd ganrif cyn Crist]] yn [[Gandhara]], ysgrifennodd [[Pāṇini]] ei Aṣṭādhyāyī, astudiaeth gynhwysfawr o ramadeg y [[Sanscrit]]. Dechreuodd yr astudiaeth o ramadeg yn [[Ewrop]] gyda [[Dionysius Thrax]] (170 ‑ 90 CC).
 
Ym [[1660]], cyhoeddodd [[Antoine Arnauld]] ei ''Grammaire générale et raisonnée'', llyfr mawr ei ddylanwad. Defnyddiodd dulliau [[rhesymeg]] glasurol a'u cymhwso i iaith. Honodd fod iaith yn adlewyrchiad uniongyrchol o brosesau meddwl, ac mai'r iaith [[Ffrangeg]] oedd y ffordd fwyaf naturiol o fynegi syniadau!
 
Yn y [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]], daeth tro ar fyd diolch i ganfyddiadau ym maes [[ieithyddiaeth gymharol]]. Daeth ieithyddwyr i sylweddoli maint amrywiaeth ieithoedd y byd am y tro cyntaf, a herwyd y berthynas rhwng cystrawen a rhesymeg. Daeth i'r amlwg nad oedd un ffordd arbennig o fynegi syniad yn fwy naturiol na'r lleill i gyd.
 
==Cysylltiadau allanol==