4,390
golygiad
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Cymeriad yn y bedwaredd o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'' yw '''Gwydion fab Dôn'''. Gellir ystyried mai Gwydion, yn hytrach na Math, yw'r prif gymeriad yn y stori. Mae ei fam, [[Dôn]], yn [[Dduwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] sy'n chwaer i Math fab Mathonwy ac a uniaethir â'r dduwies Geltaidd [[Danu]]/[[Anu]] yn y traddodiad Gwyddelig.
Yn ôl y chwedl, ni allai [[Math]] fab [[Mathonwy]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn,
Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi, yn ei lys yn [[Rhuddlan Teifi]]. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo y moch a gafodd gan [[Arawn]] brenin [[Annwfn]] yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond wedi i Wydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Lleddir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i [[Caer Dathyl|Gaer Dathyl]] ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
|