Al-Andalus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lad:Al-Andalus |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4:
Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw, er y gall fod cysylltiad â’r [[Fandaliaid]]. O ''al-Andalus'' y daw enw y Gymuned Ymreolaethol fodern [[Andalucia]], ond ar un adeg yr oedd al-Andalus yn llawer ehangach na hynny.
Ar [[27 Ebrill]] yn y flwyddyn [[711]], glaniodd byddin Fwslimaidd o tua 9,000 o wyr yn [[Gibraltar]] (Yebel Tarik), dan arweiniad [[Tariq Ibn Ziyad]], dirpwy i Raglaw [[Tangier]], [[Musa ibn Nusair]]. Ar [[19 Gorffennaf]] gorchfygasant fyddin y [[Fisigothiaid]] , a lladdwyd [[Roderic]], brenin y Fisigothiaid. Y flwyddyn wedyn cyrhaeddodd Musa ibn Nusair ei hun gyda byddin arall. Yn y pum mlynedd nesaf, trwy gyfuniad o frwydro a gwneud cytundebau, daethant i reoli’r rhan fwyaf o Orynys [[Iberia]]
Yn [[756]] daeth [[Abd al-Rahman I]] i [[Córdoba]] a sefydlodd linach a fu’n rheoli al-Andalus hyd [[1031]]. Creodd Abd al-Rahman Emirat Cordoba yn [[773]]. Yn [[912]], daeth [[Abd al-Rahman III]] i’r orsedd ac yn [[929]] cyhoeddodd ei hun fel [[Califf]].
|