Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Coed Llathen"

Ychwanegwyd 1,464 beit ,  3 blynedd yn ôl
lleoliad
BNo edit summary
(lleoliad)
{{coord|51.88853|N|4.06612|W|name=Coed Llathen|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}
 
Mae '''Brwydr Coed Llathen''' a '''Brwydr y Cymerau''' yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod ([[2 Mehefin]] [[1257]]), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng [[Coed Llathen|Nghoed Llathen]], plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o [[Llandeilo|Landeilo]], a'r ail yn '[[y Cymerau]] ger [[Llandeilo]]'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus, ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.
 
==Cefndir==
 
==Y Frwydr==
===Lleoliad===
Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr e.e. "Cae Trange" (Cae Tranc), "Cae Dial," a "Cae yr ochain". Fe'i lleolir ar waelod bryncyn sy'n wynebu'r de, mewn dyffryn cul. Ar waelod y dyffryn mae'r ffordd sy'n troelli rhwng [[Caerfyrddin]] a Llandeilo, yr A40, bellach.
 
Lleolwyd Cymerau, tan yn ddiweddar ym mhlwyf Llanegwad (SN501201) ger [[Nantgaredig]], yn y fforch lle llifa [[Afon Tywi]] ac [[Afon Cothi]] i'w gilydd - bron union hanner ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Seiliwyd y lleoliad hwn (gan [[J. Edward Lloyd]]) ar ei farn i gofnodwr yr ''[[Annales Cambriae]]'' wneud cangymeriad, gan nodi "Caerfyrddin" yn hytrach nag "[[Aberteifi]]". Bellach, fodd bynnag, credir fod y cofnodwr yn gywir, ac felly'r lleoliad mwyaf tebygol yw'r cymerau rhwng afonydd Ddulas, Afon Ddu a Nant Llwyd, dwy filltir i'r de-orllewin o [[Talyllychau|Dalyllychau]] (SN645305), tua 9km i'r gogledd o Landeilo. Cred [[Beverley Smith]] ac eraill fod dianc i Aberteifi yn fwy tebygol, gan y gallai milwyr o [[Iwerddon]] dodd yno i'w hatgyfnerthu.
 
 
===Y diwrnod cyntaf===
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*[http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/wp-content/uploads/2017/02/Coed-Llathen-and-Cymerau-1257-Chapman-2013.pdf ''Coed Llathen and Cymerau''] gan Dr Adam Chapman, Chwefror 2013;
 
 
[[Categori:1257]]