Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lleoliad
ffynonnellau gwreiddiol
Llinell 2:
{{coord|51.88853|N|4.06612|W|name=Coed Llathen|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}
 
Mae '''Brwydr Coed Llathen''' a '''Brwydr y Cymerau''' yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod ([[2 Mehefin]] [[1257]]), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng [[Coed Llathen|Nghoed Llathen]], plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o [[Llandeilo|Landeilo]], a'r ail yn '[[y Cymerau]]'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.
 
Cofnodwyd yr hanes yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' ac ym ''[[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] (Peniarth MS 20 a [[Llyfr Coch Henrgest]]). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.
 
==Cefndir==