Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Coed Llathen"

Lleihawyd o 1 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Mae '''Brwydr Coed Llathen''' a '''Brwydr y Cymerau''' yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod ([[2 Mehefin]] [[1257]]), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen, plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o [[Llandeilo|Landeilo]], a'r ail yn 'y Cymerau'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.
 
Cofnodwyd yr hanes yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' ac ym ''[[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]]'' (Peniarth MS 20 a [[Llyfr Coch HenrgestHergest]]). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.