Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfesurynnau
map 1888
Llinell 1:
{{Brwydrau'r Normaniaid yng Nghymru}}
{{coord|51.886957|N|4.065431|W|name=Coed Llathen|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}
[[Delwedd:Coed Llathen OS 1888.PNG|bawd|310px|Map 1888 yr OS, gan ddangos mae y gad ac enwau'r caeau "Cae Tranc" a "Cae Dial" a'r ffermdy "Llethr-Cadfan". Gweler [https://maps.nls.uk/geo/explore/#zoom=17&lat=51.8873&lon=-4.0653&layers=6&b=1 y map].]]
 
Mae '''Brwydr Coed Llathen''' a '''Brwydr y Cymerau''' yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod ([[2 Mehefin]] [[1257]]), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen, plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o [[Llandeilo|Landeilo]], a'r ail yn 'y Cymerau'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.
 
Cofnodwyd yr hanes yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' ac ym ''[[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]]'' (Peniarth MS 20 a [[Llyfr Coch Hergest]]). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.
 
==Cefndir==
Llinell 17 ⟶ 16:
==Y Frwydr==
===Lleoliad===
Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr e.e. "Cae Trange" (Cae Tranc)", "Cae Dial," a, "Cae yr ochain" a fferm cyfagos o'r enw "Llethr-Cadfan". Fe'i lleolir ar waelod bryncyn sy'n wynebu'r de, mewn dyffryn cul. Ar waelod y dyffryn mae'r ffordd sy'n troelli rhwng [[Caerfyrddin]] a Llandeilo, yr A40, bellach.
 
Lleolwyd Cymerau, tan yn ddiweddar ym mhlwyf Llanegwad (SN501201) ger [[Nantgaredig]], yn y fforch lle llifa [[Afon Tywi]] ac [[Afon Cothi]] i'w gilydd - bron union hanner ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Seiliwyd y lleoliad hwn (gan [[J. Edward Lloyd]]) ar ei farn i gofnodwr yr ''[[Annales Cambriae]]'' wneud cangymeriad, gan nodi "Caerfyrddin" yn hytrach nag "[[Aberteifi]]". Bellach, fodd bynnag, credir fod y cofnodwr yn gywir, ac felly'r lleoliad mwyaf tebygol yw'r cymerau rhwng afonydd Ddulas, Afon Ddu a Nant Llwyd, dwy filltir i'r de-orllewin o [[Talyllychau|Dalyllychau]] (SN645305), tua 9km i'r gogledd o Landeilo. Cred [[Beverley Smith]] ac eraill fod dianc i Aberteifi yn fwy tebygol, gan y gallai milwyr o [[Iwerddon]] dodd yno i'w hatgyfnerthu.