Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Coed Llathen"

Ychwanegwyd 11 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(map 1888)
BNo edit summary
Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr e.e. "Cae Tranc", "Cae Dial", "Cae yr ochain" a fferm cyfagos o'r enw "Llethr-Cadfan". Fe'i lleolir ar waelod bryncyn sy'n wynebu'r de, mewn dyffryn cul. Ar waelod y dyffryn mae'r ffordd sy'n troelli rhwng [[Caerfyrddin]] a Llandeilo, yr A40, bellach.
 
Lleolwyd Cymerau, tan yn ddiweddar ym mhlwyf Llanegwad (SN501201) ger [[Nantgaredig]], yn y fforch lle llifa [[Afon Tywi]] ac [[Afon Cothi]] i'w gilydd - bron union hanner ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Seiliwyd y lleoliad hwn (gan [[J. Edward Lloyd]]) ar ei farn i gofnodwr yr ''[[Annales Cambriae]]'' wneud cangymeriad, gan nodi "Caerfyrddin" yn hytrach nag "[[Aberteifi]]". Bellach, fodd bynnag, credir fod y cofnodwr yn gywir, ac felly'r lleoliad mwyaf tebygol yw'r cymerau rhwng afonydd Ddulas, Afon Ddu a Nant Llwyd, dwy filltir i'r de-orllewin o [[Talyllychau|Dalyllychau]] (SN645305), tua 9km i'r gogledd o Landeilo. Cred [[J. Beverley Smith]] ac eraill fod dianc i Aberteifi yn fwy tebygol, gan y gallai milwyr o [[Iwerddon]] doddeu ynohatgyfnerthu i'wgyda hatgyfnerthubwyd a milwyr.
 
 
===Y diwrnod cyntaf===