Tôn (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Mae ychydig dros 50% o ieithoedd y byd yn donyddol ond nid yw'r rhan fwyaf o'r [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] yn donyddol, sef rhai o'r ieithoedd a siaredir y fwyaf yn y byd.
 
Yn [[Tsieinëeg|Nhsieinëeg]], fe wahaniaethir y rhan fwyaf o donau gan eu siâp (tro). Mae'r rhan fwyaf o sillafau yn cario tôn eu hun ac fe wahaniaethir rhwng nifer o eirau drwy dôn yn unig. Yn ogystal, nid yw tôn yn dueddol o chwarae rôl gramadegol (agac eithrio ieithoedd Jin Shanxi).
 
Yn nifer o'r ieithoedd tonyddol Affricannaidd gan gynnwys y rhan fwyaf o'r [[ieithoedd Bantw]], fe wahaniaethir tonau gan eu lefel berthynol; mae geiriau'n hirach, mae yna lai o [[parau lleiaf|barau lleiaf tonyddol]], ac fe ellir cario tôn gan y gair i gyd yn hytrach na tôn gwahanol ar bob sillaf. Yn aml fe gyflëir gwybodaeth ramadegol, fel y presennol yn erbyn y gorffennol neu "fi" yn erbyn "chi", drwy dôn yn unig.