Ffatri Airbus UK, Brychdyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Ffatri]] adeiladu adennydd [[awyrennau|awyren]] ym [[Brychtyn|Mrychtyn]], [[Sir y Fflint]] yw '''Ffatri Airbus UK Brychtyn'''. Cwmni EADS ( European Aeronautic & Defence Systems ) sy'n berchen ar y safle.
Fe adeiladwyd y ffatri ym Mrychtyn fel ffatri ‘cysgod’ yn nechrau yr [[Ail Ryfel Byd]]. Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei ddefnyddio gan Vickers-Armstrongs Ltd; The de Havilland Aircraft Co. Ltd; Hawker Siddeley Aviation Ltd; [[British Aerospace/BAE Systems|BAE Systems]]
Fe agorwyd y ffatri ym Medi 1939 o dan reolaeth Vickers-Armstrongs i adeiladu'r awyren fombio Vickers Wellington. Fe hedfanodd yr awyren gyntaf ym mis Awst 1939 ar ôl cael ei hadeiladu mewn cyfleusterau dros dro, cyn i’r prif adeiladau gael eu gorffen. Fe roedd yna 7,000 o bobl yn gweithio ym Mrychtyn yn 1943, rhyw 5,000 ohonynt yn ferched. Fe adeiladwyd 5,540 o awyrenau Wellington rhwng Awst 1939 a Medi 1945, gyda uchafswm o 130 awyren y mis yn cael eu cynhyrchu.
Llinell 24:
Ym 1966/67 fe gafodd un o’r ddau awyren Comet diwethaf ei addasu i fod yn awyren cynddelw i’r HS801 Nimrod a hedfanodd am y tro cyntaf ar y 23ain Mai 1967 a glaniodd yn Woodford, ger Manceinion. Rhwng 1966 ac 1970 fe gafodd prif ddarnau 46 awyren Nimrod eu hadeiladu ym Mrychtyn ac eu cludo ar yr y ffyrdd i Woodford i'w cyd-osod a hedfan.
Ym 1962 fe gymerwyd de Havilland drosodd gan Hawker Siddeley Aviation Ltd.,
Ym 1969 fe gafodd Airbus Industrie ei ffurfio rhwng Ffrainc a’r Gorllewin yr Almaen, fe cafodd Hawker Siddeley ei gynnwys fel contractwr i gynhyrchu yr adain i’r awyren A300 ac fe gludwyd y par cyntaf i Bremen ym mis tachwedd 1971. Fe cludwyd y canfed par ym 1978.
|