Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Coed Llathen"

Lleihawyd o 83 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
dileu dolen doredig
(parhau)
(dileu dolen doredig)
 
===Y diwrnod cyntaf (1 Mehefin): Rhagod Llandeilo Fawr ===
Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys Gryg a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan [[rhagod]] (ymosodiad di-rybudd) o'r goedwig gerllaw. Roedd bwâu hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y Saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin Saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd [[Stephen Bauzan]] ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo: naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo.<ref>[http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] Welsh Battlefields</ref>
[[Delwedd:Brwydr Coed Llathen 2.jpg|bawd|580px|chwith|Lleoliad tebygol rhai o'r mannau perthnasol i Frwydr Coed Llathen a'r Cymerau.]]