Ifan VI, tsar Rwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Ivan6russia1740.jpg|thumb|200px|Ifan VI gyda'i fam]]
 
[[Rhestr o tsariaid Rwsia|Tsar Rwsia]] fel baban o [[1740]] hyd [[1741]] oedd '''Ifan VI o Rwsia''' ([[Rwsieg]] ''Иоанн Антонович'' / ''Ioann Antonovich'') (12 / [[23 Awst]] [[1740]] – 5 / [[16 Gorffennaf]] [[1764]]). Mabwysiadwyd Ifan gan ei hen fodryb [[Anna o Rwsia|Tsarina Anna]] yn faban wyth wythnos ym [[1740]]. Hithau a'i enwodd fel ei hetifedd, ac, ar ei marwolaeth, ar 17 / [[28 Hydref]] [[1740]], cyhoeddwyd ef yn tsar a'i ewythr [[Ernst Johann von Biron]], Dug Kurland, yn gweithredu fel rhaglyw. Ar ôl cwymp Von Biron ym mis Tachwedd, daeth mam Ifan, [[Anna Leopoldovna o Mecklenburg]] yn rhaglyw yn ei le. Serch hynny, gwir rym oedd yn nwylo Cownt Von Münnich, ac, yn hwyrach, [[Andrey Osterman]]. Diorseddwyd Ifan gan ''coup d'état'' ym mis Rhagfry [[1741]], tri mis ar ddeg ar ôl ei ddyrchafiad i'r orsedd. Carcharwyd Ifan yn [[Riga]] cyn iddo gael ei drosglwyddo i Kholmogory ar y [[Môr Gwyn]] ac wedyn i [[Shlisselburg]]. Llofruddiwyd yno ym mis Gorffennaf 1764 ar ôl cynllun anlwyddiannus i'w ryddhau.
 
{{dechrau-bocs}}