Thomas Parry (marsiandïwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Marsiandïwr Cymreig oedd '''Thomas Parry''' (1768 – 1824), sydd â lle pwysig yn hanes economi Tamil Nadu yn India. Ganed Thomas Parry yn drydydd ...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Marsiandïwr Cymreig oedd '''Thomas Parry''' (1768 – 1824), sydd â lle pwysig yn hanes economi [[Tamil Nadu]] yn [[India]].
 
Ganed Thomas Parry yn drydydd fab Edward Parry ac Anne Vaughan, o Blas Leighton, ger [[Y Trallwng]] ym [[Maldwyn]] ([[Powys]]). Dilynodd yrfa fel marsiandïwr. Pan sylweddolodd y botensial i fusnes a marsiandïaeth yn India, aeth Parry i ddinas [[Chennai]], De India, ar ddiwedd y 1780au. Yno sefydlodd fusnes bancio a nwyddau ar 17 Gorffennaf 1788. Bychan oedd y busnes yn y dechrau, ond tyfu a wnaeth a daeth 'Parry' yn enw cyfarwydd yn Chennai. Heddiw mae'r cwmni a sefydlodd yn dal i fynd, wrth yr enw (Cwmni) EID Parry.
 
Enwir un o ardaloedd busnes canolog mwyaf Chennai ar ôl Thomas Parry, sef [[Parry's Corner]] (''Cornel Parry''). Lleolir pencadlys cwmni EID Parry yno o hyd.