Camlas Panama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: la:Fossa Panamensis
BDim crynodeb golygu
Llinell 13:
Llwyddodd [[Ferdinand de Lesseps]], peiriannydd o [[Ffrainc]] adeiladu [[Camlas Suez]] yn [[yr Aifft]], ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i gynllunio'r gamlas, felly. Dechreuodd gwaith adeiladu ar [[1 Ionawr]], [[1880]]. Beth bynnag, roedd aeiladu camlas Suez yn golygu cloddio tywod mewn [[diffeithdir]], ond roedd pethau yn wahanol iawn yn Panamá: roedd rhaid cloddio cerrig mewn [[coedwig law]] a brwydro yn erbyn dilywiau yn ogystal ac afiechydon trofannol megis [[clefyd melyn]] a [[malaria]]. O'r roedd rhaid rhoi'r gorau i'r prosiect.
 
Beth bynnag, roedd [[Theodore Roosevelt]], Arlywydd yr [[UDA|Unol Daleithiau]] yn hyderus fod y prosiect hwn yn bwysig i'w wlad -- am resymau milwrol yn ogystal a rhai [[economeg|economaidd]]. Ar y pryd, roedd Panamá yn rhan o [[Colombia]], a felly dechreuodd trafodaethau â Colombia i gael caniatâd adeiladu. O ganlyniad, arwyddwyd Cytundeb Hay-Herran ym [[1903]], ond ni chadarnhawyd y cytundeb gan Senedd Colombia. Felly roedd Roosevelt yn cefnogi'r mudiad annibyniaeth Panamáidd ac yn danfon llongau rhyfel i'r arfordir pan ddechreuodd frwydr. Beth bynnag, doedd gwrthwynebiad Colombia yn erbyn y chwyldro ddim yn cryf iawn (efallai er mwyn osgoi rhyfel yn erbyn yr UDAUnol Daleithiau) a daeth Panamá i fod yn wlad annibyniol, a rhoddwyd Cylchfa'r Gamlas Panamá i'r UDAUnol Daleithiau ar [[23 Chwefror]], [[1904]]. Cafodd Panamá $10 miliwn am hynny (ar ôl Cytundeb Hay-Bunau-Varilla, [[18 Tachwedd]], [[1903]]).
 
Yn ystod yr adeiladu, roedd arbennigwyr o'r UDAUnol Daleithiau yn cryfhau mesurau iechyd ac yn dileu'r clefyd melyn. Roedd tri prif peiriannydd yn gweithio ar y gamlas: doedd y cyntaf, [[John Findlay Wallace]], ddim yn llwyddiannus iawn, ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith sylfaenol gan yr ail, [[John Stevens]], ond fe ymddiswyddodd ym [[1907]]. Cwblhawyd y gamlas gan y trydydd, y milwriad Americanaidd [[George Washington Goethals]].
 
Cynllun de Lesseps oedd adeiladu camlas ar lefel y môr, ond methodd a ddatrys problem yr [[Afon Chagres]] a'i dilywau niferus yn ystod y [[tymor glaw]]. Felly roedd Stevens yn cynlluno camlas gyda lociau, ac adeiladu [[argae]] enfawr dros yr Afon Chagres ger Gatún. Defnyddir y llyn enfawr, a cafodd ei greu'n ganlyniad, i gynhyrchu trydan -- ac i'w groesi ar long. Felly mae traean y gamlas yn ffordd ar hyd lyn artiffisial. Camp enfawr oedd cloddio ffordd trwy [[gwahanfa ddŵr|wahanfa ddŵr]] ger Culebra (''Toriad Caillard'' erbyn hyn). Daeth gwaith adeiladu'r gamlas ar ben ar y [[10 Hydref|degfed o Hydref]], [[1913]], pan ffrwydrwyd ''Gamboa Dike'' gan yr Arlywydd [[Woodrow Wilson]] mewn seremoni swyddogol.
Llinell 21:
Roedd llawer o weithwyr o [[India'r gorllewin]] yn gweithio ar greu'r gamlas, a bu o leiaf 5,609 ohonyn farw wrth eu gwaith.
 
Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]] roedd llongau rhyfel yr UDAUnol Daleithiau yn mynd trwy'r camlas i'r Môr Tawel a roedd Cylchfa'r Gamlas o dan reolaeth yr UDAUnol Daleithiau hyd i [[31 Rhagfyr]], [[1999]]. Daeth rheolaeth yr UDAUnol Daleithiau ar ben yn ganlyniad i Gytundeb Torrijos-Carter (a arwyddwyd ym [[1977]] gan yr Arlywydd [[Jimmy Carter]]) oedd yn rhoi'r gamlas o dan reolaeth Panamá.