Kung Fu Panda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
rhif_imdb = |
}}
Mae Kung Fu Panda yn ffilm gomedi anemeiddiediganimeiddiedig [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] o 2008. Cafodd ei chyfarwyddo gan [[John Stevenson]] a [[Mark Osborne]] a'i chynhychuchynhyrchu gan [[Melissa Cobb]]. Cynhyrchwyd y ffilm yn Stiwdios Animeddio DreamWorks yn [[Glendale]], [[Califfornia]] a'i dosbarthu gan [[Paramount Pictures]]. Mae'r ffilm yn serennu lleisiau [[Jack Black]] fel y panda, Po, ynghyd a lleisiau [[Jackie Chan]], [[Dustin Hoffman]], [[Angelina Jolie]], [[Lucy Liu]], [[Seth Rogen]], [[David Cross]], ac [[Ian McShane]]. Lleolir y ffilm yn hen [[Cheina]] a dilyna'r ffilm hynt a helynt panda lletchwith sy'n breuddwydio am fod yn feistr kung fu. Pan mae ymladdwr brawychus yn dianc o'r carchar, daw Po yn Frwydrwr y Ddraig. Mae Dreamworks yn gweithio ar ffilm ddilynol i Kung Fu Panda sydd ar hyn o bryd yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.
 
Er fod y syniad o 'kung fu panda' wedi bodoli ers 1993 o leiaf, ni ddechreuwyd gweithio ar y prosiect tan 2004. Un o gyfarwyddwyr DreamWorks Animation, Michael Lachance, gafodd y syniad am y ffilm. Yn wreiddiol, bwiadwydbwriadwyd creu ffilm [[parodi|barodi]] ond penderfynodd y cyfarwyddwr Stevenson i greu ffilm a oedd yn efelychu ffilmiau cyffro [[Hong Kong]], sydd yn plethu siwrnai'r prif gymeriad. Roedd yr animeiddio cyfrifiadurol yn fwy gymhlethcymhleth nag unrhyw beth roedd DreamWorks wedi gwneud yn flaenorol. Fel yn achos nifer o ffilmiau animeiddiedig DreamWorks, ysgrifennwyd y sgôr gan [[Hans Zimmer]] (a gyd-weithiodd gyda John Powell). Ymwelodd â Cheina er mwyn ymgyfarwyddo â'r diwylliant ac i gwrdd â Cherddorfa Cenedlaethol Cheina.