Safi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Golygfa ar ''medina'' Safi Dinas ym Moroco yw '''Safi''' (Arabeg: آسفي), a leolir yng ngorllewin y wla...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:05, 23 Gorffennaf 2009
Dinas ym Moroco yw Safi (Arabeg: آسفي), a leolir yng ngorllewin y wlad ar lan Cefnfor Iwerydd. Mae'n brifddinas rhanbarth Doukkala-Abda, gyda phoblogaeth o 284,750 (cyfrifiad 2004), ond mae'r ardal ehangach o'i gwmpas yn gartref i tua 793,000 o bobl (1987).
Mae Safi yn borthladd pysgota sy'n ganolfan diwydiant sardîns, ac sy'n allforio ffosfad, brethyn a gwaith ceramig hefyd. Roedd Safi, wrth yr enw Safim, dan reolaeth Portiwgal o 1488 hyd 1541.
Nawddsant Safi yw Abu Mohammed Salih.
Prif ardaloedd y ddinas
|
|
|
Dolenni allanol
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Safi
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol canolfan cludiant Safi