Biaffra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Tagiau: Golygiad cod 2017
ffynhonnell
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Flag of Biafra.svg|bawd|220px|Baner Biaffra]]
Gwladwriaeth a ffurfiwyd trwy ymwahanu oddi wrth [[Nigeria]] yn [[1967]] oedd '''Gweriniaeth Biaffra'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', "Biafra".</ref> Bu mewn bodolaeth hyn Ionawr [[1970]], pan roddwyd diwedd arni gan fuddugoliaeth lluoedd arfog Nigeria yn [[Rhyfel Cartref Nigeria]].
 
Ffurfiwyd gwladwriaeth Biaffra yn ne-ddwyrain Nigeria, yn bennaf gan aelodau [[llwyth]] yr [[Igboaid]]. Roedd hyn yn ganlyniad anghydfod ar seiliau economaidd, diwylliannol a chrefyddol rhwng grwpiau ethnig Nigeria. Ar [[30 Mai]], 1967, cyhoeddodd [[Chukwuemeka Odumegwu Ojukwu]], llywodraethwr milwrol Rhanbarth Dwyreiniol Nigeria, fod y rhanbarth o hynny ymlaen yn wladwriaeth annibynnol dan yr enw Biaffra.
Llinell 7:
 
Ymateb llywodraeth Nigeria oedd ymdrech filwrol i ad-uno'r wlad. Wrth i sefyllfa filwrol Biaffra waethygu yn [[1969]], dechreuodd [[newyn]] yno. Credir i dros filiwn o bobl farw yn y rhyfel neu o newyn. Bu'r digwyddiadau yma yn sbardun i greu y mudiad dyngarol rhyngwladol [[Médecins Sans Frontières]] ("Doctoriaid heb Ffîn").
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Cyn-wladwriaethau]]