Llyn Tegid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Llyn naturiol mwyaf Cymru yw '''Llyn Tegid''' (6.4km/4 milltir ar hyd, 1.6km/1 milltir ar led). Mae ar ymylon [[Eryri]] gan [[y Bala]] a'i lân gogleddol ac [[Afon Dyfrdwy]] yn llifo trwyddo. Mae [[Rheilffordd Llyn Tegid]] yn rhedeg ar hyd y lân ddeheuol. Mae Llyn Tegid rhwng y mynyddoedd [[Aran]] ac [[Arenig]].
 
Mae'r llyn dwfn, clir yn gartref i lawer o anifeiliaid megis, er enghraifft [[penhwyad]], [[draenogyn]], [[brithyll]] a [[llysywen]]. Mae nifer o'r rhywogaethau sydd yn byw yn y llyn yn brin iawn -- er enghraifft pysgod fel y [[gwyniad]] (''Coregonus lavaretus'') a'r falwen dŵr croyw brinnaf Prydain, y [[malwen lysnafeddog]] (''Myxas glutinosa'': ''glutinous snail''). Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r broblem o [[ewtroffigedd]] wedi datblygu yn Llyn TegodTegid sydd yn risg eithafol i'r nifer o rywogaethau mae'r llyn yn gynefin iddynt.
 
Mae'r llyn yn boblogaidd iawn i [[hwylio]], [[bordhwylio]], [[canŵio]] a [[pysgota|physgota]].