Mithridates VI, brenin Pontus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ko:미트리다테스 6세
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: eu:Mitridates VI.a; cosmetic changes
Llinell 1:
[[ImageDelwedd:Mithridates_VI_Louvre.jpg|thumb|250px|Cerflun o Mithridates VI yn amgueddfa'r [[Louvre]].]]
 
Brenin [[Pontus]] yn [[Asia Leiaf]] rhwng [[120 CC|120]] a [[63 CC]] oedd '''Mithridates VI''' ([[Groeg]]: Μιθριδάτης), a elwir hefyd yn '''Mithridates Eupator ''' neu '''Mithridates Fawr''', ([[132 CC|132]] - [[63 CC]]. Roedd yn un o elynion mwyaf ystyfnig a llwyddiannus [[Gweriniaeth Rhufain]] yn y cyfnod yma.
 
Roedd Mithridates VI yn fab i [[Mithridates V, brenin Pontus|Mithridates V]] ([[150 CC]] - 120 CC). Bu ei dad farw pan oedd Mithridates yn ieuanc, ac am gyfnod ei fam [[Gespaepyris]] fu’n rheoli’r deyrnas. Tua. 115 CC diorseddodd Mithridates ei fam a’i charcharu. I sicrhau ei safle, lladdodd nifer o’i frodyr a priododd ei chwaer, Laodice.
 
Uchelgais Mithridates oedd cael rheolaeth dros y cyfan o ardal y [[Môr Du]] ac [[Anatolia]]. Concrodd [[Colchis]], a gorchfygodd y [[Scythia|Scythiaid]]id a’u gorfodi i’w gydnabod fel arglwydd. Cytunodd i rannu [[Paphlagonia]] a [[Galatia]] gyda [[Nicomedes III]], brenin [[Bithynia]]. Yn ddiweddarach aeth yn rhyfel rhwng Mithridates a Nicomedes ynghylch [[Cappadocia]], ac wedi i Mithridates ei orchfygu mewn nifer o frwydrau, gofynnodd Nicomedes am gymorth Rhufain.
 
Parhaodd yr ymladd dan frenin nesaf Bithynia, [[Nicomedes IV]], a choncrodd Mithridates Bithynia ac ymestyn ei awdurdod hyd y [[Propontis]]. Cafodd gefnogaeth y dinasoedd Groegaidd, yn cynnwys [[Athen]], yn erbyn Rhufain. Gwnaeth gynghrair a [[Tigranes Fawr]], brenin [[Armenia]], a briododd Cleopatra, merch Mithridates.
 
Yn [[88 CC]], gorchymynodd Mithridates ladd pob Rhufeiniwr yng ngorllewin Anatolia; dywedir i 80,000 o wyr, gwragedd a phlant gael eu lladd. Ymladdwyd rhyfel rhwng Mithridates a Rhufain rhwng [[88 CC]] and [[84 CC]], a gorfododd y cadfridog Rhufeinig [[Lucius Cornelius Sulla]] Mithridates i encilio o [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]]. Fodd bynnag, roedd [[Gaius Marius]] wedi cipio grym yn Rhufain, a gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates er mwyn medru dychwelyd i Rhufain.
 
[[ImageDelwedd:Mithridates VI of Pontus.jpg|chwith|thumb|200px|Darn arian gyda delw Mithriadates VI , brenin Pontus.]]
 
Pan geisiodd Rhufain feddiannu Bithynia,ymosododd Mithridates, a bu rhyfel arall rhwng [[83 CC]] a [[82 CC]], gyda’r cadfridogion [[Lucullus]] ac yna [[Gnaeus Pompeius Magnus]] yn ymladd yn erbyn Mithridates. Ni orchfygwyd Mithridates yn derfynol hyd y trydydd rhyfel, rhwng [[75 CC]] a [[65 CC]], pan orchfygwyd ef gan Pompeius a’i orfodi i ffoi i’r [[Crimea]]. Ceisiodd godi byddin arall i ymladd yn erbyn Rhufain, ond bradychwyd ef gan ei fab, a lladdodd ei hun yn [[Panticapaeum]]. Enwyd dinas [[Eupatoria]] yn y Crimea ar ei ol.
Llinell 33:
[[en:Mithridates VI of Pontus]]
[[es:Mitrídates VI]]
[[eu:Mitridates VI.a]]
[[fa:مهرداد ششم]]
[[fi:Mithridates VI]]