Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: brythoneg
Llinell 33:
Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r [[ansoddair|ansoddeiriau]]. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a [[rhifol|rhifolion]] yn amrywio i ddangos [[cenedl enwau|cenedl gair]] a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis '''trumbos''' (gwrywaidd), '''trumba''' (benywaidd), '''trumbon''' (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau '''bardos''' → '''bardd''', '''mapos''' → '''mab''', ansoddeiriau '''u̯indos''' → gwyn, '''u̯inda''' → '''gwen''', '''trumbos''' → '''trwm''', '''trumba''' → '''trom''', rhifolion '''oinos''' → '''un'''. Collwyd y genedl ddiryw.
 
===[[Cyfnewidiad seiniol|Cyfnewidiadau seiniol]]===
Newidiwyd rhai o'r llafariaid a'r cytseiniaid a rhai cyfuniadau o lythrennau, lle y byddai ynganiad y gair Cymraeg yn ddiymdrech o'i gymharu â'r wreiddiol Frythoneg. Byddai '''t''' yn troi'n '''th''' ar ôl '''r''' megis yn '''nerton''' → '''nerth''' ond byddai llafariad+'''t'''+'''r''' yn achosi i'r '''t''' droi'n '''d''' megis yn '''natrīcs''' → '''neidr'''.