Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 1:
{{Cymraeg}}
Digwyddodd '''trawsnewidiad y [[Brythoneg|Frythoneg]] i'r [[Cymraeg Cynnar|Gymraeg]]''' yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'u hiaith [[Lladin]], ddylanwad trwm ar y [[Brythoneg|Frythoneg]]. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod ar Brydainarni neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef [[Cymraeg#Cymraeg_Cynnar|Cymraeg Cynnar]] a [[Cernyweg|Hen Gernyweg]].
 
Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys [[Tywyn]], Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y chweched ganrif, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y chweched ganrif.
 
Gan nad oedd y [[Brythoneg|Frythoneg]] yn iaith ysgrifenedig, tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r [[Cymraeg|Gymraeg]]. <ref> Yn ystod y 19eg ganrif dechreuwyd astudio hanes datblygiad ieithoedd a'r perthynas rhyngddynt. Cymerwyd y dystiolaeth ysgrifenedig a oedd ar gael, a'i chymharu â'r hyn a oedd ar gael ar gyfer ieithoedd eraill a ddyddiai o'r un adeg hanesyddol. Dilynwyd felly hynt iaith ar hyd yr oesau. O ddeall patrymau newid ieithyddol mae modd ail-lunio ieithoedd diflanedig. Mae [[ieitheg gymharol]] yn adeiladu ar dystiolaeth enwau llefydd a phobl Brythonig, ac ambell i enw cyffredin a gofnodwyd yn Lladin neu yng Ngroeg. Y technegau hyn sydd wedi galluogi ieithyddion i ddirnad peth o eirfa a gramadeg y Frythoneg.</ref>
 
Mae ieithyddion wedi dyfalu y bu i enwau ac ansoddeiriau y Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol, sef y 'cyflyrau' a oedd yn nodweddu ieithoedd [[Indo-Ewropeg Gorllewinol]] yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis '''dwylo'''. O ran cenedl, dim ond gwrywaidd a benywaidd a erys yn Gymraeg.
Llinell 31:
|}
 
Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r [[ansoddair|ansoddeiriau]]. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a [[rhifol|rhifolion]] yn amrywio i ddangos [[cenedl enwau|cenedl gair]] a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis '''trumbos''' (gwrywaidd), '''trumba''' (benywaidd), '''trumbon''' (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau '''bardos''' → '''bardd''', '''mapos''' → '''mab''', ansoddeiriau '''u&#815;indos''' → gwyn, '''u&#815;inda''' → '''gwen''', '''trumbos''' → '''trwm''', '''trumba''' → '''trom''', rhifolion '''oinos''' → '''un'''. Collwyd y genedl ddiryw.
 
===Cyfnewidiadau seiniol===