Undeb Gwyddbwyll Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Fe'i sefydlwyd ar [[19 Mehefin]] [[1954]] drwy uno cymdeithasau yn ne Cymru a [[Mynwy]], ac i ddechrau roedd yn rhan o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (BCF). Sefydlodd yr Undeb [[Pencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru]] yn [[1955]].
 
Ar [[15 Tachwedd]] [[1969]] datgysylltodd wrth y BCF a gwneud cais i fod yn aelod llawn ac annibynnol o Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd. Un o arweinwyr yr ymgyrch dros undeb annibynnol i Gymru oedd y [[Prifardd]] a'r llenor [[T. Llew Jones]]. Derbyniwyd y cais gan FIDE yng Nghyngres Siegen yn [[1970]] a chafodd Cymru'r cyfle i gystadlu yn ei [[Olympiad Gwyddbwyll]] cyntaf yn Skopje [[1972]], gan ddod yn y 43ain safle o 62.
 
Mae'r Undeb yn cynnwys 6 cymdeithas sirol, neu ranbarth: [[Dyfed]] [http://www.dca.paulorton.com/], Dwyrain [[Morgannwg]] [http://www.barrychessclub.ndo.co.uk/], [[Gwent]] [http://www.mark-adams-home.com/website/index.html], Gogledd [[Ceredigion]], Gorllewin Cymru, a [[Swydd Gaer]] a Gogledd Cymru.