Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lladin Llafar"

Ychwanegwyd 1 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B (robot yn ychwanegu: ko:민중 라틴어)
 
==Hanes==
Gan nad ysgrifennwyd iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]]; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaethpwyd gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaradwyd Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn dageludatgelu manylion am iaith lafar yr awdur. <ref>Charles H. Grandgent, [http://books.google.com/books?id=_OzEl6nLsGIC&pg=PA5&lpg=PR4 ''An Introduction to Vulgar Latin''] (Heath & Co., 1907)</ref>
 
Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, [[Lladin Canol]], oherwydd pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion [[Lladin Clasurol]]. Defnyddiwyd ffurf “rewadwy” yr iaith Ladin fel iaith ysgolheictod drwy gydol y [[Canol Oesoedd]] hyd y [[Dadeni]].
2,093

golygiad