Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lladin Llafar"

Ychwanegwyd 14 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
Oherwydd y newidiadau seiniol a ddigwyddai yn Lladin Llafar, fe ddeath yn galetach i gadw’r system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau]] enwol. Oherwydd colled yr /m/ ar ddiwedd geiriau, colled yr hyd ffonemig llafariad, a’r æ yn newid o /ai/ i /ɛ/ , daeth y [[gogwyddiad Lladin|gogwyddiad cyntaf]] yn ddi-ddefnydd. Dengys y tabl ar y dde yr effaith a gafodd y newidiadau seiniol ar enwau'r gogwyddiad cyntaf. Oherwydd newiadau seiniol eraill tebyg a wanhaodd diwedd geiriau, fe gollwyd cyflyrau mewn grwpiau [[gogwyddiad Lladin|gogwyddo]] eraill hefyd gan symud morffoleg enwol Lladin o fod yn [[iaith synthetig|synthetig]] i [[iaith analytig|ddadelfennol]].
 
Fe ddiflannodd y cyflyrau yn raddol. Cadwai [[Hen Ffrangeg]] gwahaniaethwahaniaeth rhwng y [[cyflwr goddrychol]] a’r [[cyflwr gwrthrychol]] (cas-sujet/cas-régime) a ddiflannodd yn y [[12fed ganrif]]. Ceidw Rwmaneg [[cyflwr genidol|gyflwr genidol]] a [[cyflwr derbynniol|chyflwr derbynniol]] o hyd yn ogystal ag olion o [[cyflwr cyfarchol|gyflwr cyfarchol]].
 
Fe farciwyd y gwahaniaeth rhwng ungiol a lluosog mewn dwy ffordd yn yr [[ieithoedd Romáwns]]. I ogledd a gorllewin y [[Llinell La Spezia-Rimini]] sy’n rhedeg drwy ogledd yr Eidal, fe wahaniaethwyd yr unigol o’r lluosog gan –s ar ddiwedd y gair, a oedd yn bresennol yn ffurfiau lluosog benywaidd a gwrywaidd yr hen [[cyflwr gwrthrychol|gyflwr gwrthyrchol]] ym mhob dosbarth [[gogwyddiad Lladin|gogwyddiad]]. I dde a dwyrain y [[Llinell La Spezia-Rimini]], fe farciwyd y gwahaniaeth gan newidiadau llafarol ar ddiwedd enwau, fel sy’n digwydd mewn [[Eidaleg]] a [[Rwmaneg]] fodern. Mae’r newidiadau llafarol yn cadw a chyffredinoli gwahaniaethau a farciwyd ar enwau lluosog yn y [[cyflwr goddrychol|goddrychol]] yn y [[gogwyddiad Lladin|gogwyddiad cyntaf]] a’r [[gogwyddiad Lladin|ail ogwyddiad]].
2,093

golygiad