Gwrth-Semitiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ur:ضد سامیت; cosmetic changes
Llinell 1:
{{gweler|Semitiaeth|Seioniaeth}}
 
Casineb at [[Iddew|Iddewon]]on neu [[rhagfarn|ragfarn]] yn eu herbyn yw '''Gwrth-Semitiaeth'''. Yn hanesyddol mae dwy brif ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi bod: Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol (neu Grefyddol), a Gwrth-Semitiaeth Fodern (neu Hiliol).
 
== Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol ==
 
Roedd hon wedi'i seilio ar y gred mai cymuned grefyddol oedd wedi mynd ar gyfeiliorn oedd yr [[Iddewon]]. Yn waeth na hynny, yng ngolwg gwrth-Semitiaid yr Oesoedd Canol, roedd yr [[Iddewon]] wedi dewis crwydro oddi ar y llwybr cywir, gan wrthod [[Iesu Grist]] fel Meseia, er ei fod e'n hanu o'u cenedl nhw. Ceir engrhraifft ddiddorol iawn o'r meddylfryd hwn yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] yn llyfr dychanol [[Ellis Wynne]], ''Gweledigaethau y Bardd Cwsg'', a gyhoeddwyd yn [[1703]]. Yn hwnnw, mae'r prif gymeriad yn cael ei dywys i "Eglwys yr Iddewon" lle mae'r addolwyr "yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddienydd, er bod sbectol lwyd-olau ganddynt, am fod rhyw huchen wrth ysbïo yn tyfu dros eu llygaid, eisiau eu hiro â'r gwerthfawr enaint, ffydd."
Llinell 11:
Yn ystod yr Oesoedd Canol, arweiniodd credoau gwrth-Iddewig at gryn drais at Iddewon, yn enwedig yn ystod y [[Croesgadau]]. Enghraifft arswydus o hyn oedd yr ymosodiad gwaedlyd ar gymuned Iddewig Caerefrog, gogledd [[Lloegr]], wrth iddynt geisio lloches yn Nhŵr Clifford yn [[1190]].
 
== Gwrth-Semitiaeth Fodern ==
 
Mae hon wedi'i seilio ar y syniad mai hil yw'r Iddewon, a'u bod nhw fel hil neu genedl yn niweidiol i genhedloedd eraill. Yn rhan o hyn, mae cred bod Iddewon yn cydweithio gyda'i gilydd i reoli economi'r byd er eu mantais eu hunain. Roedd y fath wrth-Semitiaeth yn ffasiynol iawn yn yr [[1920au]] a'r [[1930au]], gan gael ei hybu gan bobl ddylanwadol fel [[Henry Ford]]. Cafodd ei fynegi yn [[Cymraeg|Gymraeg]] gan [[Saunders Lewis]] yn ei gerdd ''Y Dilyw'', lle bwriodd y bai ar fancwyr [[Iddew|Iddewig]]ig am greu argyfwng economaidd yr 1930au: "Penderfynodd y duwiau...a'u ffroenau Hebreig yn ystadegau'r chwarter, ddod y dydd i brinhau credyd drwy fydysawd aur."
 
Cyrhaeddodd Gwrth-Semitiaeth Fodern ei phenllanw ar ffurf [[Natsïaeth]] [[yr Almaen]], pan welwyd ymgais i lofruddio'r cyfan o boblogaeth [[Iddew|Iddewig]]ig [[Ewrop]].
 
Mae rhai'n honni erbyn hyn bod trydedd ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi datblygu, sef Gwrth-Semitiaeth Wleidyddol, wedi'i seilio ar wrthwynebiad i Wladwriaeth [[Israel]].{{angen ffynhonnell}} Mae'r honiad hwn wedi deillio o bryder nad yw rhai o wrthwynebwyr [[Israel]] yn gwahaniaethu rhwng anghytuno â pholisïau llywodraeth [[Israel]] a lladd ar [[Iddewon]] yn gyffredinol. Mae mudiad [[Iddew|Iddewig]]ig y Gynghrair Wrth-Ddifenwi wedi tynnu sylw at y syniadau negyddol iawn am [[Iddewon]] fel pobl sydd i'w cael yn y gwledydd Arabaidd dan orchudd beirniadaeth wleidyddol i bolisïau llywodraeth [[Israel]].{{angen ffynhonnell}} Ond yn hanesyddol mae'r gwledydd [[Islam]]ig ac Arabaidd wedi bod yn llawer mwy goddefol tuag at yr Iddewon na'r gwledydd Ewropeaidd Cristnogol. Ceir Iddewon a mudiadau Iddewig sy'n gwrthwynebu gwladwriaeth Israel hefyd, e.e. y [[Neturei Karta]].
 
Er bod Gwrth-Semitiaeth weithiau wedi bod yn dreisgar iawn, yn enwedig yn Nwyrain [[Ewrop]], dim ond un enghraifft o drais gwrth-Iddewig difrifol sydd wedi'i chofnodi yng [[Cymru|Nghymru]]. Bu trefysg gwrth-Iddewig yn [[Tredegar|Nhredegar]] yn [[1911]], pan ymosododd torf ar siopau [[Iddewon]] gan ganu emynau [[Cristnogaeth|Cristnogol]]. Er nad anafwyd neb yn gorfforol, difrodwyd siopau ac eiddo eraill yn [[Tredegar|Nhredegar]], [[Glyn Ebwy]], [[Cwm]] a [[Bargoed]].
 
== Gweler hefyd ==
* [[Neo-Natsïaeth]]
 
Llinell 84:
[[tr:Antisemitizm]]
[[uk:Антисемітизм]]
[[ur:ضد سامیت]]
[[vi:Chủ nghĩa bài Do Thái]]
[[yi:אנטיסעמיטיזם]]