William Salesbury: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Aildrefnu + gweithiau eraill heblaw y Testament Newydd
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''William Salesbury''' (tua 1520 - tua 1584) oedd un o ysgolheigion mwyaf [[Cymru]] yng nghyfnod y [[Dadeni Dysg]], a fu'n gyfrifol, gyda [[Thomas Huet]], am wneud y cyfieithiad cyntaf cyflawn y [[Testament Newydd]] i'r [[Iaith Cymraeg|Gymraeg]] a gyhoeddwyd ym [[1567]].
 
Ganwyd yn [[Llansannan]], [[Conwy]] ac fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol [[Rhydychen]] lle astudiodd [[Hebraeg]], [[Groeg (iaith)|Groeg]] a [[Lladin]]. Yno daeth yn ymwybodol o lyfrau gwaharddiedig [[Martin Luther]] a [[William Tyndale]] a thechnegau argraffu. Yn 1547 cyhoeddodd geiriadur [[Saesneg]]-Cymraeg yn 1547 ac ''Oll synnwyr pen Kembero ygyd'', casgliad o ddiarhebion Cymreig a wnaed gan Gruffudd Hiraethog.
Llinell 5:
Fel [[Erasmus]] a Martin Luther, credai William Salesbury yn gryf mewn gwneud y Beibl ar gael i bawb yn eu mamiaith. Cyhoeddoedd cyfieithiad Cymraeg y darlleniadau o'r Efengylau a'r Epistolau yn y ''Book of Common Prayer'', ''Kynniver Llith a Ban'' (1551). Bu William Salesbury, a oedd yn [[Protestaniaeth|Brotestant]] i'r carn, yn cuddio mewn lloches drwy gydol teyrnasiad y frenhines [[Catholigiaeth|Babyddol]] [[Mari I o Loegr|Mari I]], felly nid argraffwyd dim byd ganddo yn y cyfnod hynny. Dechreuodd ei gyfieithu unwaith eto gydag esgyniad y Frenhines [[Elisabeth I o Loegr|Elisabeth]] i'r orsedd. Yn 1563 argymhellodd y Senedd i basio deddf a wnai cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau esgobion Cymru a [[Henffordd]]. Mae'n gyfrifol hefyd am un o'r ceisiadau cynharaf i ddisgrifio seiniau'r iaith Gymraeg yn ei ''A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong'' (1550, ailargraffwyd 1567).
 
==Ei effaith ar yr Iaithiaith Gymraeg==
Ymdrechai William Salesbury i wneud y Gymraeg yn iaith safonol a fyddai'n dderbyniol gan ysgolheigion drwy ei Lladineiddio. Er enghraifft, roedd y rhagenw gwrthrychol gwrywol yn cael ei ynganu [i] (fel y mae'n dal i fod heddiw), ond fe'i sillafwyd ''ei'' gan William Salesbury er mwyn gwneud y cysylltiad tybiedig rhyngddo a'r Lladin ''eius'' yn fwy amlwg. Mae'r sillafiad honno wedi ennill y dydd, ond mae sillafiadau eraill ganddo, megis ''eccles'' am ''eglwys'' a ''discipulon'' am ''disgybl(i)on'', wedi diflannu'n llwyr, ac, ar y cyfan, nid yw ei system sillafu wedi goroesi.