Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 42:
[[Delwedd:EisteddfodGenedlaetholCaerdydd2018-01.jpg|bawd||Golwg o'r Eisteddfod o Fae Caerdydd]]
Yn hytrach na Maes traddodiadol, lleolwyd yr Eisteddfod yn yr ardal o gwmpas [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|y Senedd]] a [[Canolfan y Mileniwm|Chanolfan y Mileniwm]] ym Mae Caerdydd, gyda'r Ganolfan yn cymryd lle'r Pafiliwn arferol. Adeilad y Senedd oedd cartref Y Lle Celf. Gosodwyd yr amryw stondinau ar y parciau o gwmpas yr [[Eglwys Norwyaidd, Caerdydd|Eglwys Norwyaidd]] ac ar waelod Rhodfa Lloyd George. Gosodwyd llwyfan y maes a'r pentref bwyd ym [[Plas Roald Dahl|Mhlas Roald Dahl]]. Defnyddwyd hen adeilad Profiad Doctor Who ar gyfer Maes B gyda Chaffi Maes B ar dir cyfagos.
 
Profodd yr Eisteddfod yn llwyddiant gyda nifer yn canmol natur agored a chynhwysol y Maes. Dywedodd nifer o stondinwyr eu bod wedi yn brysur a fod busnes wedi bod yn dda. Yn dilyn yr 'arbrawf' cododd rhai y syniad o barhau gyda'r un patrwm yn y dyfodol gyda Maes agored ac am ddim. Dywedodd yr Eisteddfod y byddai rhaid edrych ar sut y gellir ariannu y fath ŵyl mewn lleoliadau eraill, lle efallai nad oes yr adnoddau ac adeiladau fel oedd ar gael ym Mae Caerdydd.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45141638|teitl=Ble nesaf i'r Eisteddfod arbrofol wedi Caerdydd?|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=10 Awst 2018|dyddiadcyrchu=14 Awst 2018}}</ref>
 
==Prif gystadlaethau==