Cenhedlaeth y Bitniciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Defnyddir y term '''Cenhedlaeth Bitniciaid''' (Saesneg:''Beat Generation'') i ddisgrifio grŵp o ysgrifennwyr Americanaidd...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:02, 29 Gorffennaf 2009

Defnyddir y term Cenhedlaeth Bitniciaid (Saesneg:Beat Generation) i ddisgrifio grŵp o ysgrifennwyr Americanaidd (o dan arweiniad Allen Ginsberg a Jack Kerouac). Daethant i'r amlwg yn ystod y 1950au a mynegai eu gwaith deimlad eu bod wedi'u hynysu o gymdeithas dosbarth canol.[1] Weithiau, caiff y term ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio'r ffenomena diwylliannol yr ysgrifenasant amdano neu'r ysbrydolant. (Yn ddiweddarach, cawsant eu galw'n "beatniks" hefyd.) Mae'r elfennau canolog i ddiwylliant "Bitnic" yn cynnwys gwrthod gwerthoedd Americanaidd traddodiadol, arbrofi gyda chyffuriau a mathau gwahanol o rywioldeb, yn ogystal â diddordeb mewn ysbrydolrwydd gwledydd Asia.

Prif weithiau llenyddol y Genhedlaeth Bitniciaid oedd Howl (1956) gan Allen Ginsberg, Naked Lunch (1959) gan William S. Burroughs a On the Road (1957) gan Jack Kerouac. Daethpwyd ag achosion llys yn erbyn "Howl" a "Naked Lunch" am eu bod yn cael eu hystyried yn anweddus ond yn ei dro, arweiniodd hyn at ryddfrydu'r hyn a allai gael ei argraffu yn yr Unol Daleithiau. Trawsnewidiodd "On the Road" ffrind Kerouac, Neal Cassady i fod yn arwr diwylliannol i'r ieuanc. Datblygodd aelodau'r Genhedlaeth y Bitniciaid enw i'w hunain fel hedonyddion bohemaidd newydd, a ddathlai anghydffurfiaeth a chreadigrwydd byrbwyll.

Cyfarfu llenorion gwreiddiol "Cenhedlaeth y Bitniciaid" yn Ninas Efrog newydd. Yn ddiweddarach, cyfarfu'r prif gymeriadau (ag eithrio Burroughs) yn San Francisco yng nghanol y 1950au. Daethant yn gyfeillion â chymeriadau a oedd yn gysylltiedig ag Adfywiad San Francisco. Yn ystod y 1960au, gweddnewidiwyd y diwylliant bitnicaidd a oedd yn ehangu'n gyflym: symudodd y Genhedlaeth Bitnicaidd o'r neilltu a chymrodd Gwrth-ddiwylliant y Chwechdegau ei le, a newidiodd terminoleg y cyhoedd o "bitnic" i "hipi".

Dolenni allanol

Tudalennau cyffredinol am y Genhedlaeth Bitnicaidd

Tudalennau twristaidd Bitnicaidd

Ffotograffau

Cyfeiriadau

  1. Fargis, Paul (1998). The New York Public Library Desk Reference - 3rd Edition. Macmillan General Reference. td. 262. ISBN 0-02-862169-7
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.