Heini Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Fe'i ganwyd yn Nolgellau yn fab i’r llenorion a’r Eifftolegyddion [[Kate Bosse Griffiths]] a [[John Gwyn Griffiths]]. Symudodd y teulu yn fuan wedyn i Abertawe, wedi i'w dad gael ei benodi'n ddarlithydd cynorthwyol yn y Clasuron yng [[Prifysgol Abertawe|Ngholeg y Brifysgol, Abertawe]]. Mae ganddo frawd hŷn [[Robat Gruffudd]].
 
Bu'n athro yn [[Ysgol Gyfun Ystalyfera]], Abertawe. Yn 1979 dyfeisiodd y gêm fwrdd 'Gêm y Steddfod' a ddarlunwiwyd gan [[Elwyn Ioan]].<ref>{{dyf gwe|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40814422|teitl=Lle oeddwn i: Gêm y Steddfod|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=3 Awst 2017|dyddiadcyrchu=16 Awst 2018}}</ref> Rhwng 1990 a 2003 roedd yn ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion Prifysgol Abertawe.
 
Mae wedi llunio nifer o gyrsiau ar gyfer dysgu Cymraeg a mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys ''[[Welsh is Fun!]]'', the ''Welsh Learner’s Dictionary'' a ''Street Welsh''. Mae'n awdur y llyfr poblogaidd ''[[Enwau Cymraeg i Blant]]''. Seiliwyd ei waith ar ymchwil academiadd cadarn a daeth yn awdurdod rhyngwladol yn ei faes. Cafodd ei wahodd i arwain gweithdai ar draws y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.