Carinthia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 26:
[[Delwedd:Bilingual roadsigns (German-Slovene).png|thumb|200px|Arwydd dwyieithog yn Carinthia]]
 
Ceir lleiafrif Slofeneg ei iaith mewn rhannau o'r dalaith, ac mae mudiad yn galw am [[arwyddion ffyrdd dwyieithog]]. Yn [[1972]], penderfynodd llywodraeth [[Bruno Kreisky]] a llywodraethwr Carinthia, Hans Sima, osod arwyddion dwyieithog mewn ardal yn ne Carinthia, ond dinistriwyd hwy gan fudiadau adain-dde oedd yn gwrthwynebu dwyieithrwydd.
 
Yn [[1977]], penderfynodd y llywodraeth ffederal osod arwyddion dwyieithog ymhob cymuned lle'r oedd 25% neu fwy o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg. Ni lwyddwyd i'w gosod ymhob un o'r rhain oherwydd gwrthwynebiad. Yn [[2001]], gorchymynwyd gosod arwyddion dwyieithog ym mhob cymuned lle'r oedd 10% o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg, ond gwrthododd y llywodraethwr ar y pryd, [[Jörg Haider]], wneud hynny.
 
==Nodiadau==