Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cenhedlaeth y Bitniciaid"

Ychwanegwyd 6 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
Defnyddir y term '''Cenhedlaeth Bitniciaid''' (Saesneg:''Beat Generation'') i ddisgrifio grŵp o [[ysgrifennwr|ysgrifennwyr]] [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] (o dan arweiniad [[Allen Ginsberg]] a [[Jack Kerouac]]). Daethant i'r amlwg yn ystod y [[1950au]] a mynegai eu gwaith deimlad eu bod wedi'u hynysu o'r gymdeithas dosbarth canol.<ref>Fargis, Paul (1998). The New York Public Library Desk Reference - 3rd Edition. Macmillan General Reference. td. 262. ISBN 0-02-862169-7</ref> Weithiau, caiff y term ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio'r ffenomena diwylliannol yr ysgrifenasant amdano neu'r ysbrydolant. (Yn ddiweddarach, cawsant eu galw'n "beatniks" hefyd.) Mae'r elfennau canolog i ddiwylliant "Bitnic" yn cynnwys gwrthod gwerthoedd Americanaidd traddodiadol, arbrofi gyda [[cyffur|chyffuriau]] a mathau gwahanol o [[rhywioldeb|rywioldeb]], yn ogystal â diddordeb mewn ysbrydolrwydd gwledydd [[Asia]].
 
Prif weithiau llenyddol y Genhedlaeth Bitniciaid oedd ''[[Howl]]'' (1956) gan Allen Ginsberg, ''[[Naked Lunch]]'' (1959) gan [[William S. Burroughs]] a ''[[On the Road]]'' (1957) gan Jack Kerouac. Daethpwyd ag achosion llys yn erbyn "Howl" a "Naked Lunch" am eu bod yn cael eu hystyried yn anweddus ond yn ei dro, arweiniodd hyn at ryddfrydu'r hyn a allai gael ei argraffu yn yr Unol Daleithiau. Trawsnewidiodd "On the Road" ffrind Kerouac, Neal Cassady i fod yn arwr diwylliannol i'r ieuanc. Datblygodd aelodau'r Genhedlaeth y Bitniciaid enw i'w hunain fel hedonyddion bohemaidd newydd, a ddathlai anghydffurfiaeth a chreadigrwydd byrbwyll.
 
Cyfarfu llenorion gwreiddiol "Cenhedlaeth y Bitniciaid" yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog newydd]]. Yn ddiweddarach, cyfarfu'r prif gymeriadau (ag eithrio Burroughs) yn [[San Francisco]] yng nghanol y [[1950au]]. Daethant yn gyfeillion â chymeriadau a oedd yn gysylltiedig ag [[Adfywiad San Francisco]]. Yn ystod y [[1960au]], gweddnewidiwyd y diwylliant bitnicaidd a oedd yn ehangu'n gyflym: symudodd y Genhedlaeth Bitnicaidd o'r neilltu a chymrodd Gwrth-ddiwylliant y Chwechdegau ei le, a newidiodd terminoleg y cyhoedd o "bitnic" i "hipi".