Khénifra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Khénifra gyda'i fur 250px|bawd|Pont ganoloesol yng nghanol y ddinas Dinas hyn...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Khénifra-vue-Taabit.jpg|250px|bawd|Khénifra gyda'i fur]]
[[Delwedd:Khénifra-pont.jpeg|250px|bawd|Pont ganoloesol yng nghanol y ddinas]]
Dinas hynafol ym [[Moroco]] yw '''Khénifra''' ([[Ieithoedd Berber|Amazigh]] ''Xnifra'', [[Arabeg]]: خنيفرة). Fe'i lleolir yng ngogledd canolbarth y wlad i'r gorllewin o fynyddoedd yr [[Atlas Canol]]. Poblogaeth: 523,000 (cyfrifiad 2004).
 
Khénifra yw canolfan draddodiadol y Zayanes, un o lwythau [[Berber]] Moroco. Mae'n gorwedd tua 160 km o [[Fès]] a 300 km o [[Marrakech]]. Mae'n brifddinas talaith Khénifra yn rhanbarth [[Meknès-Tafilalet]].
 
Mae'r afon [[Oum Er-Rbia]] ('Mam y Gwanwyn'), un o afonydd mwyaf Moroco, yn tarddu yn yr Atlas Canol tua 40 km o Khénifra ac yn llifo trwy'r ddinas ac wedyn ar gwrs gorllewinol i gyrraedd y [[Cefnfor Iwerydd]] ger [[Azemmour]].
 
Mae mwyafrif y boblogaeth yn bobl [[Berber]] ac yn siarad Amazigh/Tamazigh, un o'r [[ieithoedd Berber]].
 
==Dolen allanol==