Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cenhedlaeth y Bitniciaid"

Ychwanegwyd 1,926 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B
 
Cyfarfu llenorion gwreiddiol "Cenhedlaeth y Bitniciaid" yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog newydd]]. Yn ddiweddarach, cyfarfu'r prif gymeriadau (ag eithrio Burroughs) yn [[San Francisco]] yng nghanol y [[1950au]]. Daethant yn gyfeillion â chymeriadau a oedd yn gysylltiedig ag [[Adfywiad San Francisco]]. Yn ystod y [[1960au]], gweddnewidiwyd y diwylliant bitnicaidd a oedd yn ehangu'n gyflym: symudodd y Genhedlaeth Bitnicaidd o'r neilltu a chymrodd Gwrth-ddiwylliant y Chwechdegau ei le, a newidiodd terminoleg y cyhoedd o "bitnic" i "hipi".
 
==Ysgrifennwyr==
Yn aml, defnyddiai'r wasg y term "bitnic" pan yn cyfeirio at grŵp bychan o ysgrifennwyr, ffrindiau Ginsberg, Kerouac, Burroughs ac weithiau Corso. Byddai diffiniad ychydog yn ehangach yn cynnwys beirdd tebyg eraill o [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]], ond dal yn ystyried Adfywiad San Francisco a [[Beirdd y Mynyddoedd Duon|beirdd y Mynyddoedd Duon]] fel mudiadau ar wahan.
 
Yn ei ddiffiniad mwyaf eang, byddai'r categori "Bitnic" yn cynnwys yr is-grŵpiau hyn i gyd, a nifer o ysgrifennwyr eraill a ddaeth i amlygrwydd ar ddiwedd y [[1950au]] a dechrau'r [[1960au]], a oedd yn rhannu'r un weledigaeth o ran themâu, syniadau, a nodau (ymrwymiad i fyw i'r funud, cyfansoddiad agored, agweddau gwrthrychol ac ati); er efallai mai prin oedd eu cysylltiad cymdeithasol â'r prif grŵp, ac y byddai nifer ohonynt yn gwadu eu bod yn rhan o "Genhedlaeth y Bitniciaid" o gwbl.
 
Prif gymeriadau ac ysgrifennwyr cynharaf y Bitniciaid oedd Jack Kerouac, William S. Burroughs, Allen Ginsberg, [[Neal Cassady]], [[Gregory Corso]], [[Herbert Huncke]], [[Peter Orlovsky]], a [[John Clellon Holmes]]. Roedd rhai o Fitniciaid craidd San Francisco yn gysylltiedig ag Adfywiad San Francisco, pobl fel [[Gary Snyder]], [[Philip Whalen]], [[Lew Welch]], [[Lawrence Ferlinghetti]], [[Harold Norse]], [[Kirby Doyle]], a [[Michael McClure]]. Roedd y beirdd a oedd yn gysylltiedig â [[Coleg y Mynydd Du|Choleg y Mynydd Du]] yn gysylltiedig â Chenhedlaeth y Bitniciaid hefyd, megis [[Robert Creeley]], [[Denise Levertov]], [[Robert Duncan]] (er fod Duncan yn un o feirniaid cynharaf o'r label "Cenhedlaeth y Bitniciaid"). Yn ogystal â hyn, roedd beirdd o'r "New York School" fel [[Frank O'Hara]], [[Kenneth Koch]]; beirdd [[swrealaeth|swreal]] fel [[Philip Lamantia]] a [[Ted Joans]]; a beirdd y cyfeirir atynt weithiau fel "ail don" Cenhedlaeth y Bitniciaid, megis LeRoi Jones/Amiri Baraka, Diane DiPrima ac Anne Waldman.
 
 
 
 
 
==Dolenni allanol==
9,307

golygiad