Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lladin Llafar"

No change in size ,  12 o flynyddoedd yn ôl
 
===Berfau===
Effeithiwyd y ffurfiau berfol llawer yn llai gan y colledion ffonetig a erydodd y system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau enwol]]; yn wir, ymddengys berfau Sbaeneg neu Bortiwgaleg (a nifer o ieithoedd Romáwns) yn debyg iawn i’w ffurfiau hynafol Lladin o hyd. Un rheswm am hyn oedd yr aceniad cryf a ddatblygodd yn Lladin Llafar a roddodd pwyslaisbwyslais ar sillafau gwahanol yn y ffurfiau rhediedig. Felly, parhaodd y ffurfiau i esblygu’n ffonetig, ond ni erydodd y gwahaniaethau rhwng y ffurfiau rhediedig.
 
Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn ''amō'' ac ''amāmus''. Yn [[Hen Ffrangeg]] achosodd yr A accenog [[dipthong]] gan achosi ''(j’)'''ai'''me'' ac ''(nous) '''a'''mons''. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn [[Ffrangeg]] yw ''nous '''ai'''mons'') ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel ''je v'''ie'''ns'' (dof) yn erbyn ''nous v'''e'''nons'' (down), a ddaeth o’r [[Lladin]] ''veniō'' a ''venīmus''.
2,093

golygiad