A. A. Milne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Golygu cyffredinol (manion), replaced: annibynol → annibynnol using AWB
Llinell 3:
[[Delwedd:Milne-Shadowland-1922.jpg|bawd|A. A. Milne yn 1922]]
 
Awdur [[Saesneg|Seisnig]] oedd '''Alan Alexander Milne''' ([[18 Ionawr]] [[1882]] – [[31 Ionawr]] [[1956]]). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfrau am arth o'r enw [[Winnie-the-Pooh]] a cherddi plant. Roedd yn lenorllenor nodedig, yn bennaf fel dramodydd cyn i lwyddiant Pooh wthio ei lwyddiant cynt i'r cysgodion.
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd Milne yn [[Hampstead]], [[Llundain]] a thyfodd i fyny yn [[Henley House School]], 6/7 Mortimer Road, [[Kilburn]], [[Llundain]], ysgol annibynolannibynnol fechan a gynhaliwyd gan ei dad, John V. Milne. Un o'i athrawon oedd [[H. G. Wells]]. Mynychodd [[Ysgol San Steffan]] a [[Coleg y Drindod, Caergrawnt]] lle astudiodd [[mathemateg]] gyda [[ysgoloriaeth]]. Tra yno, ysgrifennodd a golygodd y cylchgrawn myfyrwyr ''[[Grants]]'', cyd-weithiodd gyda'i frawd, Kenneth, ac ymddangosodd eu erthyglau o dan y llythrennau AKM. Daeth gwaith Milne i sylw'r cylchgrawn [[hiwmor]] [[Prydain|Prydeinig]], Punch a daeth yn gyfrannwr i'r cylchgrawn ac yn ddiweddarach yn olygydd cynorthwyol.
 
Ymunodd Milne â'r [[Y Fyddin Brydeinig|Fyddin Brydeinig]] yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], gwasanaethodd fel swyddog yn y [[Royal Warwickshire Regiment]], ac yn ddiweddarach ar ôl dioddedd o salwch a'i wanychodd, gyda'r [[Royal Corps of Signals]]. Ar ôl y rhyfel, ysgrifennodd ''[[Peace with Honour]]'' (1934) a wrthododd y syniad o ryfel; cymerodd hyn yn ôl i ryw raddau gyda ''[[War with Honour]]'' yn yr 1940au. Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], roedd Milne yn un o feirniaid mwyaf blaengar o'r llenor [[P.G. Wodehouse]], a gafodd ei ddal yn ei gartref gwledig yn [[Ffrainc]] gan y [[Natsiaid]] ai garcharu am flwyddyn. Darlledodd Wodehouse ar y radio o [[Berlin|Ferlin]] ynglyn ai garchariad. Er eu bod yn ddarllediadau ysgafn a wnaeth hwyl o'r [[Yr Almaen|Almaenwyr]], cyhuddodd Milne ef o draddodi brad gan gyd-weithio gyda gelyn ei wlad. (Ond fe gafodd Wodehouse ddial i rhyw raddau gan greu parodiau yn gwneud hwyl o gerddi ''Christopher Robin'' Milne yn ei storiau diweddarach.)