Beyoncé Knowles: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen wicidata
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 3:
[[Cantores]] [[R&B]] ac [[actores]] yw '''Beyoncé Giselle Knowles''' (ganwyd [[4 Medi]] [[1981]]). Roedd hi'n aelod o'r grŵp ''[[Destiny's Child]]''. Hefyd mae hi'n [[cynhyrchydd recordiau|gynhyrchydd recordiau]] ac yn [[cyfansoddwr|cyfansoddi]] ei chaneuon ei hun. Fe'i ganed a'i magu yn [[Houston, Texas]], lle mynychodd ysgol berfformio. Dechreuodd gystadlu mewn cystadlaethau canu a dawnsio pan oedd yn blentyn. Daeth Knowles yn enwog ar ddiwedd y [[1990au]] fel prif leisydd y grŵp "Destiny's Child". Tra gyda'r grŵp, gwerthodd Knowles dros 50 miliwn o recordiau'n fyd-eang ac yn ystod ei gyrfa llawn, mae wedi gwerthu dros 75 miliwn o recordiau.
 
Ym mis Mehefin 2003, tra'n gweithio'n annibynnol o "Destiny's Child", rhyddhaodd Knowles ei halbwm solo cyntaf, ''[[Dangerously in Love]]'', a ddaeth yn un o albymau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn honno, a daeth Knowles yn amlycach fel artist unigol. Roedd yr albwm yn lwyddiantllwyddiant masnachol ac ymysg y beirniaid cerddorol, a chafodd sawl cân lwyddiant amlwg, gan gynnwys "[[Crazy in Love (cân Beyoncé Knowles)|Crazy in Love]]", "[[Baby Boy (cân)|Baby Boy]]", a chan ennill pum [[Gwobr Grammy]] i Knowles yn 2004. Pan wahanodd "Destiny's Child yn 2005, parhaodd llwyddiant Knowles: aeth ei halbwm nesaf ''[[B'Day (albwm)|B'Day]]'', a ryddhawyd yn 2006, i rif un y siart Billboard, gan gynhyrchu'r caneuon llwyddiannus "Deja Vu", "Irreplaceable", a "Beautiful Liar". Rhyddhawyd ei thrydedd albwm unigol, I Am… Sasha Fierce, ym mis Tachwedd 2008, a oedd yn cynnwys y caneuon llwyddiannus "If I Were a Boy", "Single Ladies (Put a Ring on It)", a "Halo".
 
== Disgograffi ==